Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://unilife.southwales.ac.uk/
https://unilife.southwales.ac.uk/
Prifysgol De Cymru sy'n rhedeg y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Mae AbilityNet yn darparu cyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Mae nifer o adrannau i’n gwefan, sy'n cael eu darparu gan wahanol systemau. Rydym wedi casglu’r materion rydym yn ymwybodol ohonynt o dan yr adrannau perthnasol. Gobeithiwn y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i chi gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnoch
Mae gan y Unilife wefan y materion canlynol
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Nid yw peth o'r testun ar ein gwefan mor hawdd ei ddarllen ag y gallai fod oherwydd cyferbyniad gwael.
- Nid oes labeli na thestun defnyddiol ar rai o'n helfennau rhyngweithiol fel ffurflenni a botymau, sy'n eu gwneud yn anoddach i'w defnyddio.
- Weithiau nid yw strwythur ein tudalen mor eglur ag y gallai fod, gan ei gwneud yn anoddach gwneud synnwyr o'r wybodaeth yn seiliedig ar ei strwythur.
- Mae gennym rai sioeau sleidiau a ‘charwselau’ nad ydyn nhw'n hawdd eu defnyddio gyda bysellfwrdd.
- Mae ein testun amgen ar ddelweddau weithiau'n ddryslyd.
Adborth a sut i gysylltu â ni.
Cysylltwch â ni os oes gennych ymholiad hygyrchedd gan gynnwys:
- Os ydych chi'n profi problemau gyda chyrchu gwybodaeth neu ddefnyddio'r wefan
- Os dewch o hyd i broblem hygyrchedd nad yw wedi'i rhestru ar y datganiad hwn
- Os oes gennych adborth cadarnhaol ar yr ystyriaethau hygyrchedd a wnaed.
Wrth gysylltu â ni, a wnewch chi ddarparu:
- Cyfeiriad gwe'r dudalen lle daethoch o hyd i'r broblem.
- Disgrifiad o'r broblem (ac a oedd hyn o ddyfais symudol neu fwrdd gwaith).
- Enw ac, os yn bosibl, fersiwn y porwr gwe sy'n cael ei ddefnyddio.
- Manylion unrhyw dechnoleg gynorthwyol sy'n cael ei defnyddio (er enghraifft, darllenydd sgrin).
Cysylltwch trwy
E-bost [email protected]
Cysylltwch â Ni - Cysylltu â ni | Prifysgol De Cymru
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n cwrdd â gofynion hygyrchedd, Cysylltwch â Ni.
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â sut rydyn ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni
Darganfyddwch sut i gysylltu â ni https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/cysylltu-ni/
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon fersiwn 2.1 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Rydym yn profi hygyrchedd ein gwefan yn ffurfiol yn rheolaidd yn erbyn safonau WCAG 2.1 AA.
Efallai na fydd rhai rhannau o'r wefan yn gweithio i bawb. Isod mae materion hysbys y mae angen i ni naill ai eu trwsio, na allwn eu trwsio, neu nad oes angen i ni eu trwsio ar hyn o bryd. Os dewch chi o hyd i rywbeth nad yw'n gweithio y gwnaethon ni ei fethu, cofiwch gysylltu â ni.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Mae'r adran hon yn ymdrin â materion y mae'n rhaid i ni eu datrys ac rydym yn gweithio i wneud hynny.
Efallai y bydd angen i ni weithio gyda chyflenwyr 3ydd parti i ddatrys rhai problemau.
Problemau gyda strwythur HTML
Weithiau mae diffyg strwythur ar ein tudalennau HTML. Nid yw'n cydymffurfio â'r arfer a argymhellir. (WCAG: Arfer Gorau)
Rydym yn bwriadu cywiro hyn.
Materion Cyferbyniad
Mae gan rai tudalennau elfennau â chyferbyniad isel rhwng yr elfen a'i chefndir, yn enwedig pan fyddant dan ffocws. Gall hyn beri bod testun yn anodd ei ddarllen, yn enwedig i'r rheini sydd â golwg gwan, golwg gwael, neu ddallineb lliw (WCAG: 1.4.3).
Rydym yn bwriadu cywiro hyn.
Nid oes enw amlwg ar ddolenni
Rydym yn defnyddio delweddau i gysylltu â cholegau sy’n bartneriaid ac nid oes testun clir i'r dolenni (WCAG: 2.4.4, 4.1.2)
Rydym yn awyddus i drwsio hyn.
Mae rhai delweddau heb destun fel dewis amgen defnyddiol
Nid oes gan rai o’r delweddau destun cyfatebol, felly nid yw’r wybodaeth o fewn cyrraedd pobl sy’n defnyddio darllenydd sgrîn. Nid yw hyn yn cydsynio â chriteria 1.1.1 (cynnwys nad yw’n destun) y Cyfarwyddyd Hygyrchedd Gwefannau 2.1.
Rydym yn bwriadu trwsio hyn.
Elfen Ffurf heb Label
Nid oes labeli na thestun defnyddiol ar rai o'n helfennau rhyngweithiol fel ffurflenni a botymau, sy'n eu gwneud yn anoddach i'w defnyddio.
Rydym yn bwriadu trwsio hyn.
Baich anghymesur
Nid ydym yn hawlio baich anghymesur ar gyfer y wefan hon.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Mae'r adran hon yn ymdrin â materion nad oes angen i ni eu datrys ar hyn o bryd. Mae'r gyfraith yn galw'r rhain yn eithriadau.
Mae'r wefan hon yn cysylltu â chynnwys ar wefannau trydydd parti. Nid oes gennym reolaeth dros, ac nid ydym yn gyfrifol am hygyrchedd y cynnwys hwn, ond efallai y gallwn helpu os byddwch yn cysylltu â ni.
Paratowyd y datganiad hwn ar 15 Chwefror 2021. Fe'i hadolygwyd diwethaf ar 15 Chwefror 2021
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar . Cynhaliwyd y prawf gan Wasanaethau TG ym Mhrifysgol De Cymru.
Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Mehefin 2021. Fe'i hadolygwyd diwethaf ar 23 Mehefin 2021