GWYBODAETH I YMGEISWYR

O ganlyniad i gyhoeddiadau diweddar gan y llywodraeth, rydym yn deall y bydd gennych nifer o gwestiynau am eich camau nesaf.

Er mwyn eich cefnogi, rydym wedi llunio rhestr o Gwestiynau Cyffredin i helpu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni i siarad ag un o'n cynghorwyr trwy ein llinell gymorth Clirio ar 03455 76 06 06 neu gysylltwch â ni.

Neges gan yr Is-ganghellor, Julie Lydon

Neges wrth Sêra Evans, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr PDC

Ymgeisio i PDC

Dim o gwbl! Rydym methu aros i'ch croesawu i PDC ac rydym yn brysur yn cynllunio ichi gael dechrau ym mis Medi.

Gallwch, wrth gwrs! Ffoniwch ni ar 03455 76 06 06 a gallwn ail-edrych ar eich cais.

Os oes gennych gynnig diamod ar gyfer y cwrs rydych chi am ei astudio, wedyn does dim angen i chi wneud unrhyw beth! Mae eich lle yn ddiogel. Os nad ydych wedi cadarnhau eich lle eto, ffoniwch ni ar 03455 76 06 06 a gallwn drafod yr hyn sydd angen i chi ei wneud nesaf. Peidiwch â chynhyrfu - ffoniwch ni!

Os oes gennych gynnig diamod ar gyfer y cwrs rydych chi am ei astudio, wedyn does dim angen i chi wneud unrhyw beth! Mae eich lle yn ddiogel. Os nad ydych wedi cadarnhau eich lle eto, ffoniwch ni ar 03455 76 06 06 a gallwn drafod yr hyn sydd angen i chi ei wneud nesaf. Peidiwch â chynhyrfu - ffoniwch ni!

Gallwch, wrth gwrs! Ffoniwch ni ar 03455 76 06 06 ac ar gyfer y mwyafrif o’n cyrsiau byddwn yn gallu gwneud penderfyniad ar unwaith i chi.

Byddwn yn derbyn y wybodaeth hon gan UCAS ond os oes gennych y graddau hyn neu os yw'ch ysgol/coleg yn gallu eu rhoi i chi, gallwch eu hanfon ymlaen at [email protected] i ni eu hystyried wedyn.

Rydym yn cynghori pob ymgeisydd i beidio â gwneud unrhyw benderfyniadau ar frys a sicrhau eich bod yn siarad â ni am eich opsiynau.

Diwrnodau Agored Ar-Lein

Rydym yn cynnal diwrnodau agored Clirio ar-lein lle gallwch chi sgwrsio â staff academaidd a myfyrwyr i gael mwy o wybodaeth nid yn unig am PDC, ond hefyd ar amrywiaeth o gyrsiau nad ydych chi efallai wedi'u hystyried hyd yn oed, ynghyd â chanllawiau defnyddiol ar gyllid, llety a bywyd myfyriwr.

Digwyddiadau Byw

Trwy gydol mis Awst, rydym yn cynnal digwyddiadau pwnc-benodol byw. Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal gan ein staff academaidd, ac mae llawer ohonynt ar flaen y gad yn eu meysydd. Os ydych chi wedi colli digwyddiad ar y pwnc o'ch dewis, peidiwch â phoeni, gallwch ddal i gael mynediad at recordiadau o bob digwyddiad.

Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol