IS-RADDEDIG

Prosbectws Digidol
Rydyn ni’n credu mewn creu yfory gwell. Dyna pam rydyn ni’n dechrau lleihau ein hadnoddau print ble bynnag y bo modd.
Mae gan ein prosbectws digidol newydd yr holl wybodaeth sydd angen arnoch am PDC mewn un lle – ble bynnag, pryd bynnag.
Mae’n gyfleus, rhwydd i’w rannu ac yn garedig i’r blaned.
ÔL-RADDEDIG

Canllaw Ôl-raddedig, Proffesiynol ac Ymchwil 2023/24
I lawrlwytho fersiwn PDF o'r prosbectws hwn, cliciwch ar y botwm isod a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y ffurflen. Dechreuwch trwy ddewis eich cenedligrwydd, ac yna cliciwch ar 'Rydw i eisiau archebu prosbectws'.
O'r fan hon, gofynnir i chi ddarparu rhai manylion fel y gallwn e-bostio fersiwn PDF o'r prosbectws atoch.
PRIFYSGOL YN Y COLEG

Cyrsiau prifysgol yn y coleg
Oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio cwrs addysg uwch o Brifysgol De Cymru yn eich coleg lleol?
Rydym yn partneru gyda cholegau ledled De Cymru ac yn cynnig ystod eang o gyrsiau.
I ddysgu mwy, edrychwch ar ein Canllaw Cyrsiau Prifysgol ar-lein yn y Coleg 2023 neu lawrlwythwch fersiwn PDF.
Cyflwyniad 22/23/24
Mae iechyd a lles a diogelwch ein myfyrwyr a’n staff yn hollbwysig i ni. Os bydd unrhyw newidiadau i reoliadau Llywodraeth Cymru yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23/24, yna efallai y bydd angen i’r dulliau a’r gweithgareddau a fabwysiadwyd ar gyfer cyflwyno ein cwrs fod yn wahanol i’r rhai a gyhoeddwyd yn flaenorol. Byddwch yn dawel eich meddwl bod gennym ddulliau addysgu a dysgu hyblyg, technoleg briodol a’r profiad i’n galluogi i addasu ein darpariaeth yn hawdd, i’ch cefnogi i lwyddo yn eich astudiaethau, os bydd angen.
P’un a ydych ar y campws yn llawn amser, yn rhan-amser yn astudio ar-lein, neu’n amser llawn ar-lein, mae PDC wedi ymrwymo i ddarparu profiad myfyriwr gwych a chyfoeth o gymorth i chi. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen gwefan lle gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae cyfleusterau a gwasanaethau'r Brifysgol yn gweithredu yn ystod y pandemig.