
Mae PSS wrth galon PDC, gan ddarparu gwasanaethau cymorth proffesiynol hanfodol ar draws y Brifysgol.
Beth yw PSS/ Professional and Support Services Limited?
Mae Professional and Support Services Limited yn
is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy’n darparu
gwasanaethau i’r Brifysgol a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ers 2021,
mae ymgeiswyr allanol llwyddiannus ar gyfer rolau gwasanaethau proffesiynol yn
y Brifysgol wedi'u cyflogi gan PSS Limited.
Pwy sy'n gweithio i Professional and Support Services Limited?
Mae dros 300 o bobl yn gweithio i PSS yn PDC mewn amrywiaeth o rolau gwasanaethau proffesiynol: arlwyo, gweinyddol, marchnata, cyllid, adnoddau dynol a rheolwyr, i gyd yn helpu i drawsnewid dyfodol ein myfyrwyr.
Beth
yw'r gwahaniaeth rhwng gweithio i PDC a gweithio i PSS Limited?
Rydym yn gymuned yn y Brifysgol ac rydym yn dal i weithio tuag at yr un nodau, yr un Strategaeth 2030 PDC a’r un Gwerthoedd Craidd. Rydyn ni eisiau i bawb deimlo'n rhan ohono.
Os ydych chi’n gweithio i PSS Ltd yn PDC byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr PDC a PSS yn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i’w yfory: mae pob person sy’n gweithio yn PDC neu PSS Limited yn chwarae eu rhan yn nhaith y myfyriwr. Rydym yn llythrennol yn trawsnewid bywydau pobl.
Gan
bwy y dylwn ddweud fy mod yn gyflogedig?
Byddwch yn rhan o gymuned PDC ac rydym am i chi fod yn falch ohoni! Ar eich CV a LinkedIn byddwch yn gallu dweud eich bod yn gyflogedig gan PSS Ltd, yn gweithio ym Mhrifysgol De Cymru.
A
fydd gofyn i mi weithio yn y prifysgolion neu'r sefydliadau eraill y mae PSS yn
darparu gwasanaethau iddynt?
Anaml y byddai hyn yn digwydd, ond mae contract cyflogaeth PSS yn caniatáu i rywun a gyflogir gan PSS Ltd ddarparu gwasanaethau i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fel arfer, ar ôl i chi gael eich nodi fel eich bod yn darparu gwasanaethau i Brifysgol De Cymru, dyna fyddai eich ffocws parhaus.
P’un a ydych yn cael eich cyflogi gan Brifysgol De Cymru neu PSS, rydym i gyd yn rhan o’r un gymuned PDC, yn gweithio tuag at yr un nod:
Gwella Pob Yfory
