Bu gan Brifysgol De Cymru enw da ers dipyn am ei gwaith yn darparu hyfforddiant mewn gwasanaethau therapi, ac mae’n parhau i gynnig ystod eang o gyrsiau israddedig ac ôl-radd, yn ogystal â chyrsiau byr. Mae’r Brifysgol hefyd yn hynod falch o wasanaethu cymunedau yng Nghasnewydd a ledled de ddwyrain Cymru ac mae ganddo gysylltiadau a phartneriaethau gyda llawer o sefydliadau statudol a thrydydd sector.
Mae Therapi PDC yn ganolfan ragoriaeth sydd newydd ei sefydlu ar gyfer de Cymru i hyfforddi a darparu gwasanaethau therapiwtig. Canolfan Therapïau Helen Kegie yw canolbwynt y gweithgaredd hwn, ar Gampws glan dŵr Dinas Casnewydd. Gellir darparu llawer o’n gwaith mewn mannau eraill hefyd, fodd bynnag. Gall llawer ohonynt gael eu cyflwyno yng nghanolfannau ein cleientiaid neu ar ein campysau eraill, megis Trefforest, Glyn-taf a Chaerdydd.
I siarad ag aelod o’n staff, mae croeso i chi gysylltu
â ni.