Mae TherapiPDC yn wasanaeth therapiwtig, sy’n cynnig ystod o therapïau seicolegol i weithwyr proffesiynol, busnesau, sefydliadau trydydd sector ac aelodau’r cyhoedd fel ei gilydd. Gallwn gynnig ystod o opsiynau cwnsela yn dibynnu ar eich anghenion. Yn nodweddiadol rydym yn darparu bloc o sesiynau cwnsela, sy'n cynnwys 8 sesiwn y bloc. Ein pris yw £ 42 y sesiwn, Inc. o TAW. Fel arall gallwn gynnig sesiynau Cwnsela Ymddygiadol Gwybyddol a all fod rhwng 10 a 12 sesiwn y bloc. Mae'r pris hefyd yn £ 42 y sesiwn. (Inc. o TAW). Yn ogystal, rydym yn gallu Seicotherapi Cerdd a Chelf ar gost o £42 y sesiwn (Inc. o TAW). I atgyfeirio'ch hun, neu ar ran rhywun arall, sgroliwch i lawr i adran 'Sut i gyfeirio' o'r dudalen we hon.

Mae'r gwasanaeth wedi tyfu'n sylweddol ers ei sefydlu fel Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd yn 2011. Mae hanes hir gan Therapi PDC o ddarparu gwasanaeth cwnsela proffesiynol ar gyfer trigolion Casnewydd a'r ardaloedd cyfagos ac o weithio mewn partneriaeth â mudiadau statudol, y trydydd sector a busnesau lleol. O'n huned o ystafelloedd cwnsela, gallwn gynnig amrediad o wasanaethau i bobl a mudiadau o ardal De Cymru, gan gynnwys ardaloedd Casnewydd, Caerdydd, Caerffili, Trefforest, Brynbuga, Cwmbrân a Chas-gwent (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt). Mae'r gwasanaeth yn cynnig gwasanaeth a ariannir a gwasanaeth am gost is.

Mae ein gwasanaeth yn aelod sefydliadol o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP), sy'n golygu ein bod yn gweithio o fewn eu Fframwaith Moesegol ar gyfer Arfer Gorau ym maes Cwnsela a Seicotherapi.

Mae cwnsela yn cynnig man ac amser rheolaidd i drafod neu ystyried eich pryderon neu anawsterau. Mae'n helpu i archwilio eich teimladau ac yn edrych ar sut efallai hoffech chi newid pethau yn eich bywyd. 

Gallech ddewis defnyddio cwnsela ar gyfer y materion hyn: 

  • Datrys problemau
  • Gwneud dewisiadau
  • Ymdopi gyda newidiadau
  • Ennill mewnwelediad a dealltwriaeth
  • Gwella eich perthynas gydag eraill
  • Gweithio trwy deimladau anodd


Gall y mathau o anawsterau gynnwys: 

  • Anawsterau teulu a pherthnasoedd

  • Camdriniaeth

  • Trawma

  • Profedigaeth

  • Gorbryder

  • Bwlio

  • Anawsterau yn ymwneud ag iechyd

  • Hunanhyder isel
  • Dicter

  • Hunanniweidio

...neu unrhyw faterion eraill sy'n eich pryderu.

Mae cwnsela yn wasanaeth cyfrinachol. Ni fyddwn yn rhannu'ch gwybodaeth bersonol gydag unrhyw un heb eich cydsyniad. Yr unig eithriad i hyn yw os ydych chi, neu rywun arall, mewn perygl o niwed arwyddocaol.  Mae'n bosib y bydd eich cwnselwyr hefyd yn trafod eu gwaith cwnsela gyda'u goruchwyliwr clinigol er mwyn sicrhau y cynhelir safonau uchel. Ystyrir hyn i fod yn arfer gorau.

Mae therapi yn fodd o archwilio anawsterau a phroblemau yn wrthrychol.  Bydd yn digwydd yng nghyd-destun perthynas cefnogol, llawn ffydd gyda therapydd cymwys a fydd yn gweithio gyda chi i ddatblygu amcanion tuag at ddod o hyd i'ch llwybr eich hun ymlaen. 

Yn ystod y sesiwn cyntaf, bydd eich therapydd yn trafod contract cyfrinachol gyda chi. Byddant yn eich annog i drafod eich anawsterau a'ch disgwyliadau. Mae therapyddion yn gymwys mewn amrywiaeth o ymagweddau a thechnegau  a fydd yn cael eu defnyddio i gynorthwyo eu gwaith gyda chi.