Mae gwasanaeth cwnsela Therapi PDC wedi ymrwymo at ddarparu gwasanaeth cwnsela dibynadwy, cyfrinachol a chyfeillgar ond efallai na fyddwn yn ei gael yn iawn bob tro. Er mwyn i'r gwasanaeth ddatblygu a pharhau i gyrraedd ei safonau uchel, crëwyd y gweithdrefnau canlynol i ddelio â chwynion.
Cysylltu â'r Cwnselydd – I gychwyn, dylid trafod unrhyw faterion neu bryderon gyda'r Cwnselydd er mwyn, gobeithio, dod o hyd i ddatrysiad yn anffurfiol. Os na ellir datrys y mater yn anffurfiol, defnyddiwch y llwybr nesaf yn nhrefn y rhifau:
2. Cysylltu â Rheolwr Gwasanaeth Therapi PDC - Bydd rheolwr y gwasanaeth yn delio ag unrhyw gwynion sy'n ymwneud ag ymddygiad Cwnselwyr a Therapyddion sy'n gweithio ar ran y gwasanaeth.
Elizabeth Armitti
Therapi PDC
Ysgol Seicoleg ac Astudiaethau Therapiwtig
Campws Dinas Casnewydd
Usk Way
Casnewydd
NP20 2BP
Ffôn: 01633 432263
E-bost: [email protected]
3. Os yw'ch cwyn yn ymwneud â Rheolwr Gwasanaeth Therapi PDC a/neu os ydych chi'n anfodlon gydag ymateb cychwynnol y Rheolwr Gwasanaeth ac yn dymuno dwysáu'r gŵyn, gallwch gysylltu â:
Shelley Gait, Ysgol Seicoleg ac Astudiaethau Therapiwtig, Cyfadran y Gwyddorau Bywyd ac Addysg.
E-bost: [email protected]
Dilynir polisi Prifysgol De Cymru ar ddelio â chwynion os bydd y gŵyn yn dwysáu. Bydd y brifysgol yn darparu ymateb ysgrifenedig i gwynion o fewn 30 diwrnod o ddyddiad y gŵyn.
4. Cwyn am y Brifysgol
Mae gan Brifysgol De Cymru ei Pholisi Gweithdrefn Gwyno ei hun. Bydd Pennaeth Gweinyddol y Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg yn delio ag unrhyw gwynion nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r Gwasanaeth a/neu'r cwynion hynny y mae angen eu dwysáu
Mal Scofield Pennaeth Gweinyddu’r Gyfadran Prifysgol De Cymru Adeilad Aneurin Bevan Campws Glyn-taf CF37 4BD.
5. Cwyn am gwnselydd
Os ydych yn teimlo mai fframwaith ymarfer a moesegol y cwnselydd sy’n peri gofid i chi gallwch gysylltu ag adran Addasrwydd i Ymarfer eu corff proffesiynol. Bydd Rheolwr y Gwasanaeth hefyd ar gael os byddwch yn dewis rhannu eich pryderon â hi.
Cysylltu â Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP), Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) neu Gyngor Seicotherapi y Deyrnas Unedig (UKCP). Mae’r cymdeithasau hyn yn dibynnu ar aelodau'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol eraill i ddwyn materion ymarfer cwnsela/therapi gwael ac anfoesegol at eu sylw.
Mae gwasanaeth Therapi PDC fel sefydliad yn aelod o'r BACP dan Brifysgol De Cymru. Am wybodaeth bellach a/neu i gwyno, cysylltwch â:
BACP: Adran Ymddygiad Proffesiynol
Rhif Ffôn: 01455-883300
E-bost: [email protected]
HCPC: Addasrwydd i Ymarfer
Rhif Ffôn: 0800 328 4218
Rhif Ffacs: 020 7582 4874
E-bost: [email protected]
UKCP: Cyngor Seicotherapi y DU
Rhif Ffôn: 02070 149955
E-bost: [email protected]