Newid bywydau er gwell

Mae gan Brifysgol De Cymru enw da am gynhyrchu ymchwil hynod effeithiol a chymhwysol. Mae PDC yn bedwerydd yng Nghymru o ran effaith gydag 81% o’n gweithgarwch ymchwil wedi’i ddosbarthu gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (4/3*).

Mae ein hymchwil fywiog ac effeithiol yn cyfrannu at ddatrys problemau gwirioneddol a wynebir gan ein cymdeithas, ac mae ein timau ymchwil amlddisgyblaethol yn cydweithio â diwydiant, cymunedau a sefydliadau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau.

Mae ymchwil PDC yn canolbwyntio ar bedwar maes cyflymu: Trosedd, Diogelwch, a Chyfiawnder; Iechyd a Lles; Arloesi Creadigol; a’r Amgylchedd cynaliadwy.