Mae'r Brifysgol yn creu diwylliant cefnogol sy'n cynhyrchu ymchwil o'r safon uchaf. Rydym yn falch o fod wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil y Comisiwn Ewropeaidd, gan gydnabod y gefnogaeth a ddarparwn i'n hymchwilwyr.
Mae ein hymchwilwyr yn elwa o Raglen Datblygu Ymchwilwyr PDC, sy'n eu galluogi i ddatblygu technegau rheoli prosiectau, dysgu sut i gyfathrebu eu hymchwil a rhoi'r sgiliau iddynt gysylltu â busnes a diwydiant.
Mae gennym nifer o rwydweithiau i hwyluso perthynas gefnogol rhwng academyddion, a dathlu cyflawniadau ein cymuned ymchwil gyda'r Gwobrau Effaith Ymchwil ac Arloesedd.