
Mae Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi (RISe) yn darparu ystod o wasanaethau cymorth proffesiynol i gymuned ymchwil PDC.
Fel enghreifftiau, gallwn eich helpu gyda’r canlynol:
- Gwneud cais am gyllid ymchwil
- Rhoi contractau a chytundebau ar waith
- Rheolaeth ariannol / goruchwyliaeth ymchwil
- Dylunio astudiaeth ymchwil ac adolygiad methodolegol
- Polisïau uniondeb ymchwil ac adolygiad moeseg ymchwil
- Gofyn am gymeradwyaeth foesegol y Brifysgol
- Casglu, rheoli, rhannu a storio data
- Dulliau ystadegol neu ddadansoddi data
- Asesiad o ymchwil a'i ofynion
- Dulliau ar gyfer lledaenu ymchwil
- Arwain a rheoli timau ymchwil a phrosiect
- Cefnogaeth i ddatblygu gyrfa ymchwilwyr
- Cefnogaeth i ymgysylltu â busnes
- Cefnogaeth ar gyfer Mynediad Agored a Rheoli Data Ymchwil
- Defnyddio Pure
Cysylltwch â ni
Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi
[email protected]
Os oes gennych ymholiad heb ei ddatrys, yn methu â gweld yr hyn rydych yn chwilio amdano neu os ydych yn ansicr â phwy i gysylltu, cysylltwch â ni a byddwn yn eich cefnogi neu'n eich cysylltu â'r arbenigedd perthnasol yn y Brifysgol
ARWEINYDDIAETH
Yr Athro Martin Steggall
Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil)
Dr Louise Bright
Cyfarwyddwr Ymgysylltiad Busnes ac Ymchwil
Dr Owain Kerton
Pennaeth Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi
TÎM CYFNEWID AC EFFAITH GWYBODAETH
Mae’r Tîm Cyfnewid ac Effaith Gwybodaeth yn cynorthwyo ymchwilwyr i ddeall effaith yng nghyd-destun eu hymchwil, gan ddarparu hyfforddiant effaith a chefnogi cydweithrediadau ymchwilwyr i ddatblygu effaith o’u hymchwil. Maent yn darparu arbenigedd ar gyfnewid gwybodaeth a chyllid arloesi, gan gynnwys masnacheiddio IP. Maent hefyd yn cynghori ac yn cefnogi ymchwilwyr ar arfer da wrth ledaenu ymchwil i gefnogi cofnod ymchwil cywir a chyflawn; cofnodi a chyfleu effaith eu hymchwil gan gynnwys effaith polisi cyhoeddus, effaith trwy ymgysylltu â'r cyhoedd a dinesig a chefnogaeth Astudiaeth Achos Effaith REF.
- Lucas Brown, Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth ac Effaith
- Donna Szarun, Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth ac Effaith
- Dr Sofya Danilova, Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth ac Effaith
TÎM SEILWAITH YMCHWIL
Mae'r Tîm Amgylchedd Ymchwil yn sicrhau bod y Brifysgol yn cael ei chefnogi i dyfu a bod ganddi sylfaen academaidd ac ymchwil ffyniannus, wedi'i seilio ar fframweithiau a systemau addas at y diben. Mae'n rheoli Pure, System Gwybodaeth Ymchwil y Brifysgol; yn cefnogi lles a datblygiad gyrfa ymchwilwyr, gan gynnwys proses Gwobr Academaidd Uwch (HAA); yn cynnig cyngor a chefnogaeth marchnata digidol i academyddion a PGR; ac yn darparu cefnogaeth a rheolaeth weithredol ar gyfer pob agwedd ar asesiadau REF, gan gynnwys gofynion Mynediad Agored.
O fewn y tîm hwn mae'r Rheolwr Llywodraethu Ymchwil yn cefnogi ymchwilwyr sydd angen cymorth gyda pholisïau a gweithdrefnau llywodraethu ymchwil ac uniondeb, ac yn ogystal â chynghori ar ofynion cymeradwyo moesegol allanol a mewnol.
- Dr Sarah Theobald, Rheolwr Rhagoriaeth Ymchwil
- Michelle Evans, Swyddog Prosiect Ymchwil Strategol
- Jonathan Sinfield, Rheolwr Llywodraethu Ymchwil
- Nina Rabaiotti, Swyddog Marchnata Digidol Ymchwil
TÎM ARIANNU
Mae gan y Tîm Ariannu brofiad sylweddol o gael gafael ar gyllid a gall ddarparu arweiniad arbenigol ar y ffynhonnell fwyaf addas ar gyfer y gweithgaredd ymchwil rydych chi'n ei gynllunio, ynghyd ag unrhyw faterion cymhwysedd a chydymffurfiaeth a sut i gyfansoddi cais er mwyn cwrdd â meini prawf y cyllidwr. Gallant helpu gydag ymholiadau ynghylch gofynion cyllido ar gyfer Rheoli Data Ymchwil a chynghori ar ddefnyddio’r System Cymeradwyo Cyllid Allanol (EFAS), system gymeradwyo ar-lein y Brifysgol ar gyfer pob cais am gyllid.
- Sue John, Rheolwr Datblygu Ariannu
- Alun Rowles, Rheolwr Datblygu Ariannu
- Alun Cox, Swyddog Datblygu Ariannu
- Sarah Davies, Swyddog Datblygu Ariannu
- Alexandra Richards, Swyddog Datblygu Ariannu
- Kath Davies, Gweinyddwr Cymorth Ariannu
TÎM ARIANNU ÔL-DDYFARNIAD
Ar ôl dyfarnu cyllid a llofnodi contract, bydd y Tîm Ariannu Ôl-ddyfarniad yn cefnogi timau prosiect ledled y Brifysgol i weinyddu eu prosiectau ymchwil a grantiau trwy ddarparu cyngor ariannol, gwybodaeth am berfformiad a chanllawiau rheoleiddio.
- Stuart Payne, Rheolwr Ariannu ar gyfer Ymchwil; Arloesi a Grantiau
- Gaynor Williams, Swyddog Ymchwil a Grantiau
- Josephina Bianchi, Swyddog Ymchwil a Grantiau
- Katie Llewellyn, Swyddog Ymchwil a Grantiau
- Carl John, Swyddog Ymchwil a Grantiau
- Laura Sivyer, Swyddog Ymchwil a Grantiau
- Rebecca Lambert, Swyddog Cynorthwyol Ymchwil a Grantiau
YSGOL Y GRADDEDIGION
Ysgol y Graddedigion yw'r cartref ar gyfer ystod o raglenni gradd ymchwil ôl-raddedig ac mae'n darparu cefnogaeth gyffredinol i ymchwilwyr, goruchwylwyr ac arholwyr ôl-raddedig yn y Brifysgol. Mae'r tîm yn goruchwylio taith myfyrwyr ymchwil o'r cais drwodd i'r wobr; yn cefnogi goruchwylwyr, arholwyr a chadeiryddion viva, ac yn darparu llwybrau ar gyfer profiad mewn ymgysylltu allanol.
Mae tîm KESS yn rhedeg rhaglen KESS ledled Cymru a ariennir gan ESF (ysgoloriaethau PGR cydweithredol) ar draws y Brifysgol. Maent yn darparu cyngor ac arweiniad ar reoliadau ESF ar gyfer prosiectau KESS, ac yn cefnogi myfyrwyr ymchwil, goruchwylwyr, partneriaid allanol o'r cais hyd at y dyfarniad.
- Yr Athro Paul Roach, Pennaeth Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig
- Dr Elaine Huntley, Rheolwr Ysgol i Raddedigion
- Llinos Spargo, Cydlynydd Ysgol i Raddedigion, Cyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth
- Jane MacCuish, Swyddog Ysgol i Raddedigion, Cyfadran y Gwyddorau Bywyd ac Addysg
- Alison Crudgington, Swyddog Ysgol i Raddedigion, Cyfadran y Diwydiannau Creadigol
- Sally Davies, Swyddog Arholiadau Ysgol i Raddedigion
- Clare Naylor, Rheolwr Rhaglen KESS 2
- Alison Evans, Cydlynydd Rhaglen KESS 2
- Amanda Light, Gweinyddwr Rhaglen KESS 2
GWASANAETHAU LLYFRGELL
Mae cefnogaeth ar gyfer Rheoli Data a chymorth Mynediad Agored yn rhan o Wasanaethau’r Llyfrgell. Mae'r Llyfrgellydd Ymchwil yn hapus i helpu gydag ymholiadau ac mae'n darparu hyfforddiant Mynediad Agored i staff ymchwil a myfyrwyr sy'n ymdrin â phrif bolisïau Mynediad Agored, gan gynnwys Polisi Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yn ogystal â Pholisi Mynediad Agored UKRI. Mae'r Llyfrgellydd Ymchwil yn hapus i helpu gyda chynlluniau ac ymholiadau rheoli data. Gallant gynghori ar gasglu, rheoli, rhannu a storio data; opsiynau cyhoeddi Mynediad Agored; maent hefyd yn darparu hyfforddiant rheoli data i ymchwilwyr ac ymchwilwyr ôl-raddedig.
Mae Llyfrgellwyr Cyfadran yn darparu cefnogaeth ac arweiniad i ymchwilwyr ar ystod o faterion gan gynnwys adolygiadau llenyddiaeth, chwilio mewn cronfeydd data ac arfarnu gwybodaeth; a defnyddio meddalwedd rheoli cyfeirnodau Endnote.
- Nicholas Roberts, Llyfrgellydd Ymchwil
- Jose Lopez Bianco, Llyfrgellydd y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lou Wallace, Llyfrgellydd Gwyddorau Gofal, Iechyd, Chwaraeon ac Ymarfer Proffesiynol
- Sharon Latham, Llyfrgellydd Adeiladu ac Arolygu, Cyfrifiadura, Electroneg, Peirianneg a Gwyddoniaeth Gymhwysol
- Gill Edwardes, Llyfrgellydd Blynyddoedd Cynnar, Addysg, Seicoleg, Gwaith Cymdeithasol, Cwnsela a Seicotherapi
- Catherine Finch, Llyfrgellydd Busnes, Cyfrifeg a Chyllid
- Angharad Evans, Llyfrgellydd y Diwydiannau Creadigol
CYSYLLTIADAU YN Y CYFADRANNAU
Pennaeth Ymchwil
- Yr Athro Lisa Lewis, Pennaeth Ymchwil Cyfadran y Diwydiannau Creadigol
- Yr Athro Duncan Pirrie, Pennaeth Ymchwil y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth
- Dr Gina Dolan, Pennaeth Ymchwil Cyfadran y Gwyddorau Bywyd ac Addysg
Cadeirydd Moeseg
- Yr Athro Howard Williamson, Cadeirydd Moeseg Ymchwil, Cyfadran y Diwydiannau Creadigol
- Dr Rebecca Williams, Cadeirydd Moeseg Ymchwil, Cyfadran y Diwydiannau Creadigol
- Dr Paul Messenger, Cadeirydd Moeseg Ymchwil, Cyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth
- Kevin McDonald, Cadeirydd Moeseg Ymchwil, Cyfadran y Gwyddorau Bywyd ac Addys
Swyddfa'r Wasg
- Sarah Sullivan, Partner Cyfathrebu a Chyfryngau, Cyfadran y Diwydiannau Creadigol
- Kate Williams, Partner Cyfathrebu a Chyfryngau, Cyfadran y Gwyddorau Bywyd ac Addysg
- Neil Gibson, Partner Cyfathrebu a Chyfryngau, Cyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth