Bu gwelliant o 49% mewn ymchwil sy’n arwain y byd (wedi’i gategoreiddio fel 4*) yn PDC ers y REF diwethaf yn 2014.
Mae gan bron i ddwy ran o dair o ymchwilwyr PDC a gyflwynwyd i REF 2021 ymchwil sydd wedi’i chategoreiddio fel ymchwil sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4* neu 3*).
Mae PDC bellach yn bedwerydd yng Nghymru o ran effaith (i fyny o’r 8fed safle yn 2014, yn seiliedig ar 4*/3*) gydag 81% o effaith ymchwil PDC yn cael ei ddosbarthu fel un sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*).
Mae hanner yr Unedau Asesu a gyflwynwyd gan y Brifysgol (chwech) wedi cael 100% o’u heffaith ymchwil wedi’i ddosbarthu fel un sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*) gyda llawer yn arwain y ffordd yn y DU a Chymru.
Mae
PDC yn gydradd gyntaf yn y DU am ymchwil effeithiol mewn Proffesiynau Perthynol
i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth; mewn Systemau Daear a
Gwyddorau’r Amgylchedd; mewn Cyfrifiadureg a Gwybodeg; mewn Gwyddorau
Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Hamdden a Thwristiaeth; mewn Hanes, ac
mewn Cerddoriaeth, Drama, Dawns, Celfyddydau Perfformio, Astudiaethau
Ffilm a Sgrin (yn seiliedig ar 4*/3*). PDC yw'r cyntaf yng Nghymru am
ymchwil sy'n cael effaith mewn Gwaith Cymdeithasol a Pholisi
Cymdeithasol (yn seiliedig ar 4*/3*).
Dywedodd yr Athro Martin Steggall, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil yn PDC: “Bu cyfres wych o ganlyniadau ar gyfer PDC yn REF 2021 gyda thwf cryf ar draws sawl dangosydd. Mae ein heffaith yn unig yn dangos y math o brifysgol ymchwil yr ydym - yn darparu atebion byd go iawn i gymdeithas a'r economi a chefnogi ein cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, yn lleol ac yn rhyngwladol.
“Mae cael canlyniadau cryf, nid yn unig i’r Brifysgol yn gyffredinol, ond ar lefel UOA, yn braf iawn a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ymchwil effeithiol o ansawdd uchel sy’n newid bywydau, a’n byd, er gwell.”