
Ychydig iawn sy'n hysbys am hanes y cyfnewid diwylliannol rhwng y Cymry a'r bobl Khasi yng Ngogledd Ddwyrain India. Mae'r berthynas drawsddiwylliannol hon wedi'i gwreiddio yn y cyswllt cenhadol a sefydlwyd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan genhadaeth y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig ym Mryniau Khasi a Jaiñtia, a'r prosesau diwylliannol sy'n ganlyniad i'r rhyngweithiad hwn.
Hyd nes i'r mudiad cenhadol ddod i ben ym 1969, ymgymerodd ei gynrychiolwyr â chynhyrchiad diwylliannol helaeth yn seiliedig ar gyfnewid â'r gymuned leol, gan adael ar eu hôl gorff cyfoethog a chymhleth o lenyddiaeth a pherfformiad. Mae deunyddiau o'r fath yn cynnwys llythyrau, emynau a chaneuon gwerin, ysgrifennu crefyddol, dyddiaduron, cylchgronau, ysgrifennu teithiau a ffilmiau, ffotograffiaeth, ac ysgrifennu creadigol, wedi'u gwasgaru rhwng archifau gogledd ddwyrain India a Chymru.
Mewn cyfnod o ymraniad cymdeithasol a diwylliannol ledled y byd, mae ymwybyddiaeth o sut mae ein hunaniaethau diwylliannol wedi cael eu ffurfio trwy berthnasoedd trawsddiwylliannol a sut mae ein hanes wedi cael ei ddiffinio gan wahanol gyd-destunau trefedigaethol/ôl-drefedigaethol yn hollbwysig.Arweiniodd ymchwil gan yr Athro Lisa Lewis yn y Ganolfan Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach (CMCSN) at y prosiect Deialogau Diwylliannol Cymraeg a Khasi. Rhannwyd hyn trwy 28 o berfformiadau cyhoeddus a phum arddangosfa gan ymarferwyr Indiaidd a Chymreig (yn India a Chymru) rhwng 2017 - 2020 ac mae wedi codi ymwybyddiaeth o’r hanes hwn ymhlith cymunedau yn y ddwy wlad, gan alluogi cyfranogwyr o ddiwylliannau lleiafrifol i drafod eu hunaniaeth mewn perthynas â hanes trefedigaethol/ôl-drefedigaethol. Mae'r ymchwil wedi effeithio ar arferion gwaith yr artistiaid sy'n cymryd rhan; ac wedi arwain at well dealltwriaeth o sut y gall ymarfer artistig ddatgelu hanesion cymhleth a chudd.