
Mae’r ymchwil wedi'i rhannu'n ddwy thema ymchwil eang sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n ymwneud â rhychwant oes: Atal ac Ymyrryd, a Rhyngwyneb Polisi ac Ymarfer. Mae ymchwil yn y maes hwn yn canolbwyntio ar boblogaethau anodd eu cyrraedd, grwpiau difreintiedig a chyd-forbidrwydd, mewn amrywiaeth o gyflyrau iechyd corfforol a meddyliol, wedi'u hategu gan gofnod parhaus a rhagweithiol o ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol gan gynnwys cleifion, gofalwyr a theuluoedd; llunwyr polisi; a phartneriaid diwydiannol/masnachol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Uchafbwyntiau
- 100% o effaith ein hymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol (3*)
- Gydradd gyntaf yn y DU am effaith allan o 91 o brifysgolion - yn seiliedig ar 4*/3*
- Gydradd gyntaf yng Nghymru am effaith allan o bum prifysgol - yn seiliedig ar 4*/3*
- 64% o'n hallbynnau gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*)
Canlyniadau Uned Asesu
% 4* | % 3* | % ≤ 2* | |
Cyffredinol | 12 | 53 | 35 |
Allbynnau | 20.7 | 43.1 | 36.2 |
Effaith | 0.0 | 100.0 | 0.0 |
Amgylchedd | 0.0 | 12.5 | 87.5 |
Am y canlyniadau llawn ewch i www.ref.ac.uk