
Mae ymchwil gan PDC a gyflwynir i Wyddorau Mathemategol yn cynnwys gwaith gan staff o fewn y Grŵp Ymchwil Gwyddorau Mathemategol. Mae gweithgarwch ymchwil y grŵp wedi'i drefnu'n dair thema allweddol: Algebra a Chyfuno, Gwyddor Data a Mathemateg Ddiwydiannol, a Modelu Cyfrifiadurol.
Mae'r grŵp wedi gwneud cyfraniadau pwysig i ymchwil mewn theori grŵp, theori codio, bioleg fathemategol, dynameg system ac ymchwil weithredol. Mae'n defnyddio ei arbenigedd i ymateb i broblemau sy'n effeithio ar gymdeithas a'r economi gan gynnwys prosiectau ymchwil cymhwysol gyda Visa UK, Tata Steel, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.
Canlyniadau Uned Asesu
% 4* | % 3* | % ≤ 2* | |
Cyffredinol | 13 | 46 | 41 |
Allbynnau | 21.7 | 52.2 | 26.1 |
Effaith | 0.0 | 50.0 | 50.0 |
Amgylchedd | 0.0 | 12.5 | 87.5 |
Am y canlyniadau llawn ewch i www.ref.ac.uk
Uchafbwyntiau
- Mae 74% o'n hallbynnau yn rhagorol yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*)
- Ail allan o wyth prifysgol ôl-92 ar gyfer allbynnau (yn seiliedig ar 4*)
- Tryddydd allan o wyth prifysgol ôl-92 ar gyfer allbynnau (yn seiliedig ar Gyfartaledd Pwynt Gradd)