
Mae ymchwil gan PDC a gyflwynwyd i Gyfrifiadureg a Gwybodeg yn cynnwys gwaith gan staff yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Mathemateg, yr Ysgol Beirianneg, a'r Ysgol Iechyd, Chwaraeon ac Ymarfer Proffesiynol.
Mae gweithgarwch ymchwil wedi'i rannu ar draws pum maes pwnc eang:
- Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol
- Hypermedia
- Seiberddiogelwch a Fforensig
- a Deallusrwydd Artiffisial
- Cyfrifiadura Biofeddygol
Mae ymchwil i'r amrywiadau daearyddol mewn gwasanaethau cyhoeddus a phreifat wedi bod o fudd i sefydliadau rhanddeiliaid sy'n cydweithio, megis Adran yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru a Gofal Canser Tenovus.
Mae gwaith yr Uned ar Systemau Trefniadaeth Gwybodaeth wedi cynnwys nifer o sefydliadau rhanddeiliaid sy'n cydweithio, megis Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Historic England, Historic Environment Scotland, a'r Gwasanaeth Data Archaeoleg.
Canlyniadau Uned Asesu
% 4* | % 3* | % ≤ 2* | |
Cyffredinol | 8 | 43 | 49 |
Allbynnau | 2.9 | 41.2 | 55.9 |
Effaith | 25.0 | 75.0 | 0.0 |
Amgylchedd | 0.0 | 0.0 | 100.0 |
Am y canlyniadau llawn ewch i www.ref.ac.uk
Uchafbwyntiau
- Mae 51% o’r ymchwil yn gyffredinol gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*) – bron dwbl y canlyniad o 26% yn 2014
- Mae 100% o’n heffaith ymchwil yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*)
- Gydradd gyntaf yn y DU am effaith allan o 90 o brifysgolion - yn seiliedig ar 4*/3*
- Gydradd gyntaf yng Nghymru am effaith allan o bum prifysgol - yn seiliedig ar 4*/3*