
Mae ymchwil gan PDC a gyflwynwyd i Waith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol yn cynnwys gwaith gan staff o'r Gyfadran Busnes a Chymdeithas, a Chyfadran y Gwyddorau Bywyd ac Addysg.
Mae'r ymchwil hon yn cwmpasu nifer o ddisgyblaethau, ac fe'i trefnir yn dri grŵp ymchwil - Canolfan Troseddeg; y Ganolfan Polisi Cymdeithasol; a'r Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch - yn canolbwyntio ar y prif nod o gymhwyso ymchwil i faterion 'byd go iawn' er budd llywodraethau, llunwyr polisi, awdurdodau gwasanaethau cyhoeddus, defnyddwyr gwasanaethau a dinasyddion eraill.
Meysydd allweddol o gryfder i'r Canolfan Troseddeg yw trais/dynladdiad; ymchwiliadau troseddau mawr/adolygiadau achosion oer; camddefnyddio sylweddau; carchardai ac ailsefydlu; a'r gwasanaeth prawf gan gynnwys cyfiawnder ieuenctid.
Mae'r Ganolfan Polisi Cymdeithasol yn cymryd rhan mewn dadansoddi polisi ac ymarfer. Mae'n hwyluso ymchwil effeithiol yn ei feysydd mudo craidd; gwleidyddiaeth amgylcheddol; polisi cymdeithasol a chyhoeddus byd-eang, a datblygu rhyngwladol; polisïau sy'n effeithio ar bobl ifanc yng ngwledydd yr UE; a lles mewn polisi a lles/arferion iechyd.
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch yw canolfan blismona a diogelwch hynaf a mwyaf dibynadwy'r DU. Mae'n cynnal ymchwil sy'n hysbysu llywodraethau'r DU a'r UE, gan arbenigo mewn materion diogelwch allweddol fel terfysgaeth, trais gwleidyddol, seiberdroseddu a rhyfeloedd a throseddau cyfundrefnol trawswladol.
Canlyniadau Uned Asesu
% 4* | % 3* | % ≤ 2* | |
Cyffredinol | 21 | 50 | 29 |
Allbynnau | 21.6 | 52.9 | 25.5 |
Effaith | 33.3 | 50.0 | 16.7 |
Amgylchedd | 0.0 | 37.5 | 62.5 |
Am y canlyniadau llawn ewch i www.ref.ac.uk
Uchafbwyntiau
- Mae 71% o’r ymchwil yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*)
- Mae mwy nag 80% o’n heffaith ymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*)
- Mae 75% o'n hallbynnau gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*)
- Cyntaf yng Nghymru o ran effaith allan o dair prifysgol - yn seiliedig ar 4*/3*