Mae’r Ganolfan Peirianneg Systemau Modurol a Phŵer (CAPSE) yn ganolfan ymchwil, datblygu, profi ac ardystio annibynnol sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol. Mae gennym enw da am waith ymchwil blaengar a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth o fewn y sectorau peirianneg systemau modurol a phŵer uwch.
Cenhadaeth CAPSE yw cefnogi busnesau a sefydliadau i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau carbon isel, gan gefnogi’r gwaith o greu swyddi newydd a chyfleoedd economaidd.
Ac yntau'n rhan o’r Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth, mae CAPSE yn ymfalchïo yn ei gyfleusterau a'i offer arbenigol, yn ogystal â’i ymrwymiad i ymchwil a datblygiad parhaus, sy’n grymuso peirianwyr proffesiynol a staff cymorth i gyflwyno cynnyrch a gwasanaethau arloesol.
Rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos gydag arweinwyr y diwydiant i fodloni’r heriau yn y sectorau trafnidiaeth ac ynni a blaenoriaethu ein hanghenion cwsmeriaid drwy ddarparu ystod hyblyg a phwrpasol o wasanaethau sy'n anelu at sicrhau dyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy.
Yr Arglwydd Drayson yn dadorchuddio’r Ganolfan ar gyfer Peirianneg Systemau Modurol a Phŵer.
Yr Arglwydd Drayson gyda'r Athro Julie Lydon, PDC
Gall CAPSE ddarparu amrywiaeth sylweddol o wasanaethau Ymchwil a Datblygu, gwasanaethau profi a chynghori sy’n canolbwyntio ar beirianneg modurol, storio ynni, electroneg pŵer, dylunio systemau rheoli a dulliau cyfathrebu uwch.
E-bost: jonathan.williams@southwales.ac.uk
Cydweithio ar systemau batri cerbydau trydan ymchwil a datblygu