Arbenigwr yn chwalu pum myth dewiniaeth

Witchcraft Conversation article image

Dienyddiwyd tair gwraig fel gwrachod yn Derneburg yr Almaen ym mis Hydref 1555. Casgliad Everett

Gan Dr Jonathan Durrant

Tua 400 mlynedd yn ôl, cyrhaeddodd helfeydd dewiniaid Ewrop eu huchafbwynt. Rhwng y 15fed a'r 18fed ganrif, amcangyfrifir bod 50,000 o bobl, menywod yn bennaf, wedi cael eu dienyddio am ddewiniaeth ar draws Ewrop. Fe'u cyhuddwyd o addoli’r diafol, heresi a niweidio eu cymdogion trwy ddefnyddio dewiniaeth. Y 1620au oedd y cyfnod mwyaf dwys o erledigaeth mewn lleoedd fel Eichstätt yn yr Almaen, lle dienyddiwyd bron i 300 o wrachod rhwng 1617 a 1631.

Mae'r treialon dewiniaeth wedi parhau i fod yn destun chwilfrydedd, adloniant a thrafodaeth. Ond er gwaethaf y diddordeb hwn, mae dealltwriaeth boblogaidd o'r helfeydd dewiniaid Ewropeaidd yn frith o wallau a chamdybiaethau. Felly, o ystyried ei fod yn dymor y wrach, mae'n bryd chwalu rhai mythau.

1. Syniad canoloesol yw dewiniaeth

Dyw e ddim - mae'n fodern. Roedd yr eglwys Gristnogol yn amheuol ynghylch realiti dewiniaeth tan y 15fed ganrif. Hyd yn oed bryd hynny, nid oedd llawer o ddiwinyddion a chlerigwyr yn credu bod dewiniaeth yn fygythiad.

Digwyddodd treialon cyntaf pobl y credir eu bod yn addolwyr maleisus y Diafol, a oedd yn mynd ati’n weithredol i achosi niwed, yn y 15fed ganrif. Roedd y cyfnod mwyaf dwys o hela dewiniaid rhwng tua 1560 a thua 1630.

Cyn hynny roedd ychydig iawn o dreialon dewiniaeth, oherwydd credwyd bod gweithredoedd dewiniaeth yn rhith a achoswyd gan y Diafol gyda chaniatâd Duw.

Witchcraft Conversation article image 1

Witches on broomsticks, a ymddangosodd yn The History of Witches and Wizards (1720) The Wellcome Library

2. Digwyddodd treialon dewiniaeth ym mhobman

Digwyddodd y rhan fwyaf o dreialon dewiniaeth yng nghanol, gorllewin neu ogledd Ewrop. Dyma'r ardaloedd a oedd yn grud y Diwygiadau Protestannaidd a Catholig, a welodd drawsnewid daearyddiaeth grefyddol Ewrop. Ac roedd y Dadeni gogleddol a'r chwyldro gwyddonol wedi trawsnewid sut y deallwyd y byd.

Digwyddodd mwy na 50% o'r holl dreialon yn Ewrop yn yr Almaen. Ond hyd yn oed yno, roedd erledigaeth dewiniaid wedi'i chyfyngu i rai o'r nifer fawr iawn o diriogaethau ymreolaethol a lled-ymreolaethol yr oedd yn eu cynnwys.

Mewn llefydd fel Gwlad yr Iâ a Chymru, prin iawn oedd treialon dewiniaeth o gwbl. Mae'n ymddangos efallai mai credoau lleol am hud a dewiniaeth, ochr yn ochr ag agweddau clerigwyr a barnwyr, yw'r rhesymau dros hyn.

3. Fe wnaeth y Chwilys rhoi’r rhan fwyaf o wrachod ar brawf a’u dienyddio

Roedd Chwilysoedd Rhufain, Sbaen a Phortiwgal, a sefydlwyd yn yr 16eg ganrif, yn gyfrifol am ddelio â materion heresi. Maent wedi dod yn enwog am eu llymder wrth gael gwared ar y rhai a oedd yn gwrthwynebu’r uniongrededd Catholig. Eto i gyd, ychydig iawn o bobl a ddrwgdybiwyd eu bod yn wrachod gafodd eu llosgi. Ar draws benrhynion Iberia a'r Eidal i gyd, wnaeth y chwilysoedd ddienyddio llai o bobl dan amheuaeth nag a gafodd eu crogi yn Lloegr.

Rhoddodd Chwilys Sbaen stop ar y treialon dewiniaeth a oedd wedi colli drosodd o Ffrainc ar ddechrau'r 17eg ganrif trwy gymryd awdurdodaeth dros gyhuddiadau dewiniaeth.

4. Dim ond menywod oedd yn cael eu rhoi ar brawf am ddewiniaeth

Mae'n wir fod 80% o'r rhai a roddwyd ar brawf ac a ddienyddiwyd am ddewiniaeth yn fenywod. Fe wnaeth llawer o helwyr dewiniaid, fel y rhai yn Eichstätt, hefyd ddewis menywod a merched dan amheuaeth dros rai gwrywaidd, er y gallai'r dystiolaeth fod yn debyg iawn.

Fodd bynnag, mewn rhai mannau, fel Rwsia, dynion a ffurfiodd y mwyafrif o‘r rai dan amheuaeth o fod yn wrachod. Roedd hyn yn bennaf oherwydd bod Rwsiaid yn cysyniadu rhywedd yn wahanol iawn i bobl yng ngorllewin Ewrop.

Ni waeth a gafodd y rhai dan amheuaeth o fod yn wrachod eu cyhuddo o flaen eu gweill neu eu cyhuddo dan artaith, eu cymdogion benywaidd oedd y rhai mwyaf tebygol o'u cyhuddo.

Yn Lloegr, roedd menywod ar ymylon cymdeithas yn fwy agored i gyhuddiadau o ddewiniaeth pan aeth pethau o chwith i'w cymdogion, fel marwolaethau neu niwed anesboniadwy. Roedd hyn yn wir gydag Ursley Kemp, un o ddau berson o St Osyth, Essex, a ddrwgdybiwyd o fod yn wrachod, a gafodd eu crogi ym 1582. Roedd Ursley Kemp yn ffigwr ymylol yn y dref, menyw â mab siawns yn gwneud dau ben llinyn ynghyd trwy ei sgiliau iacháu.

Yn Eichstatt, roedd yn gynnyrch prosesau artaith. Pan fu'n rhaid i'r rhai a ddrwgdybiwyd (mwy na 90% ohonynt yn fenywod) enwi enwau dan artaith, rhoddon nhw rai eu cymdogion. Sefydlwyd rhwydweithiau'r rhai dan amheuaeth ar eu rhywedd; roedd menywod yn enwi menywod a'r ychydig ddynion a ddrwgdybiwyd yn enwi dynion.

5. Gwrachod oedd dilynwyr cwlt ffrwythlondeb paganaidd mewn gwirionedd

Hyrwyddwyd y myth hwn gan yr Eifftolegydd Margaret Murray ar ddechrau'r 20fed ganrif ac yna cafodd ei chwalu gan yr hanesydd C. L'Estrange Ewen bron cyn gynted ag yr ymddangosodd. Fe'i sylfaenwyd ar ddarlleniad rhannol o'r dystiolaeth dewiniaeth oedd ar gael.

Parhaodd oherwydd ysgrifennodd Murray’r erthygl Encyclopaedia Britannica ar ddewiniaeth a arhosodd mewn print am 40 mlynedd, tan 1969, ac a oedd yn cefnogi'r grefydd Wicaidd newydd mewn print yn y 1950au. Sefydlwyd y grefydd newydd hon gan Gerald Gardner a adfywiodd yr hyn yr oedd yn ei gredu oedd dewiniaeth baganaidd hynafol yn y 1930au. Ond nid oes ganddo unrhyw gysylltiad materol ag unrhyw fath o ddewiniaeth hanesyddol.

Roedd y rhan fwyaf o wrachod yn fenywod Cristnogol cyffredin a oedd yn cael eu cyhuddo o ddewiniaeth gan eu cymdogion, neu a gyhuddwyd gan bobl eraill dan artaith.

Ynglŷn â'r awdur

Dr Jonathan Durrant_ historian

Mae Dr Jonathan Durrant yn hanesydd rhywedd yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg. Mae ei ddiddordeb ymchwil presennol ym mhrofiadau dewiniaeth yn Lloegr a'r Almaen fodern gynnar.

Ef yw awdur Witchcraft, Gender and Society in Early Modern Germany, ac ar hyn o bryd mae'n ysgrifennu Witchcraft in World History ar gyfer cyfres Themes in World History Routledge.