Cefnogi Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar (ECR) – rhwydwaith newydd
22-02-2022
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn creu rhwydwaith cymheiriaid ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar, gan eu helpu i lwyddo yn eu dewis faes trwy ddarparu mynediad at arbenigedd, cyngor a chymorth.
Mae hyn ar gyfer yr holl staff sy'n weddol newydd i ymchwil ac sydd am i ymchwil fod yn rhan o'u gyrfa academaidd. Gallwch fod ar unrhyw gam gyrfa, oedran neu ddisgyblaeth.
Gall ymchwil deimlo fel busnes unig iawn. Mae staff sy’n gweithio ar ymchwil yn PDC:
- Yn aml wedi dechrau ymchwil o lwybr gyrfa anhraddodiadol
- Wedi profi unigedd pan fyddant yn un o ychydig ymchwilwyr yn eu hadrannau
- Yn aml yn teimlo bod angen iddynt frwydro am amser ymchwil
- Weithiau'n gadael i fynd i sefydliadau eraill i ddatblygu eu gyrfa ymchwil
- Heb fap llwybr amlwg ar gyfer dilyniant gyrfa
- Yn methu’n hawdd â gweld ‘rhywun fel nhw’, yn dangos iddynt sut i lwyddo mewn ymchwil
Gwyddom sut y gall pŵer cymuned helpu i oresgyn yr heriau hyn, felly rydym yn hwyluso staff sy’n weithgar ym maes ymchwil i ddod at ei gilydd o gefndiroedd niferus ac amrywiol. Y nod yw creu rhwydwaith cyfoedion lle gallwch chi rannu profiad a chefnogi'ch gilydd i lwyddo - beth bynnag fo'ch uchelgeisiau ymchwil.
Beth fyddwn ni'n ei wneud a phryd?
Byddwn yn dod at ein gilydd ar gyfer tri digwyddiad a fydd yn mynd â ni drwy’r broses o gwmpasu, creu a lansio rhwydwaith cymheiriaid ar gyfer staff sy’n weithgar ym maes ymchwil. Cydlynir y rhwydwaith gan staff sy’n weithgar ym maes ymchwil ac sy'n gwirfoddoli. Bydd cymorth hyfforddi i wirfoddolwyr.
Sut bydd yn gweithio?
Bydd hwylusydd allanol yn cefnogi pob digwyddiad fel y gallwn glywed gan bawb sydd am fynychu a chyd-greu’r rhwydwaith cyfoedion hwn gyda’n gilydd. Byddwn yn gwahodd mewnbwn a rhannu canlyniadau gyda'r holl staff a hoffai gymryd rhan ond na allant fynychu ar y dyddiadau. Rydym yn eich annog i ddod i gynifer o sesiynau ag y gallwch.
Dywedodd Dr Louise Bright, Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu Prifysgol De Cymru: “Fel llofnodwyr y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr, rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd sy’n cefnogi’r gymuned ymchwil i gyflawni hyd eithaf ei gallu. Rydym am ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi ein hymchwilwyr i ddatblygu i’w llawn botensial a gobeithiwn y bydd y fenter hon yn ddatblygiad defnyddiol i gydweithwyr ar gam cynnar yn eu gyrfaoedd ymchwil.”
Cofrestrwch le yn y digwyddiadau trwy lenwi’r ffurflen hon.
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Wythnos Mynediad Agored Ryngwladol
24-10-2022

Penodiadau newydd i Rolau Athrawon ac Athrawon Cysylltiol
13-09-2022

Astudiaeth WIHSC yn taflu goleuni ar un o weithluoedd cudd Cymru
08-09-2022

Newid Hinsawdd: trosedd ryngwladol?
07-09-2022

Canmol ffilmiau dylanwadol gan ymchwilwyr PDC yn nigwyddiad San Steffan
01-07-2022

Llongyfarchiadau i'n cydweithwyr academaidd sydd newydd gael dyrchafiad
13-06-2022

Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys: yr Athro Martin Steggall
12-05-2022

Dathlu ymchwil ysbrydoledig gyda Gwobrau Effaith ac Arloesi PDC
05-05-2022

Athro PDC yn dod yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
03-05-2022