Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys: yr Athro Martin Steggall

Prof Martin Steggall, Pro Vice Chancellor for Research


I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys (dydd Iau 12 Mai) rydym yn siarad â'r Athro Martin Steggall, y Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, a ddechreuodd ei yrfa fel nyrs dros 30 mlynedd yn ôl, ac sy'n dal i ymarfer heddiw, ochr yn ochr â'i rôl yn PDC.  


Pam oeddech chi am hyfforddi i fod yn nyrs?

Pan oeddwn i'n 16 oed, dechreuais weithio mewn banc ac roeddwn i wir yn casáu’r gwaith.  Cefais sgwrs, yn ffortunus iawn, gyda fy meddyg teulu. Gan fod gennyf anabledd gydol oes, roeddwn i’n rhyngweithio â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn weddol reolaidd.  Roeddwn i’n sgwrsio â fy meddyg teulu am yrfaoedd, a dywedodd wrtha i, gwnewch rywbeth rydych chi’n gyfarwydd ag e.  Felly, dywedais mewn ffordd ddigon ffwrdd â hi ’mod i’n gyfarwydd ag ysbytai gan fy mod wedi defnyddio llawer iawn o adnoddau'r GIG ac wedi treulio llawer o amser yn yr ysbyty yn ystod fy mhlentyndod, ac roedd fy mrawd ar y pryd hefyd yn sâl iawn ac roeddwn i’n ymwneud â rhywfaint o'i ofal clinigol. Ac fe ofynnodd y meddyg, pam nad ystyriwch chi hynny fel gyrfa?


Fe'm rhoddodd i mewn cysylltiad â'r ysbyty lleol.  Cymerais wythnos o wyliau blynyddol o’r banc, a gwnes i wythnos o brofiad gwaith fel nyrs cynorthwyol yn yr uned salwch meddwl, ac roeddwn i  wrth fy modd, er mawr rwystredigaeth i fy nheulu, yn enwedig fy nhad oedd yn rheolwr banc.  Ymddiswyddais o’r banc a gweithio fel nyrs cynorthwyol mewn uned i bobl hŷn â salwch meddwl, fel roedd yn cael ei alw bryd hynny. Roeddwn i wrth fy modd. Gwnes i hynny am sawl mis, a dyma feddwl, mae hyn yn wych, ond ar y pryd, roeddwn i am wneud mwy, felly gwnes i’r hyn oedd yn cael ei alw’n arholiad mynediad DC ar gyfer nyrsio.  Fe wnes i'n dda ac yna dyma wneud cais i ddilyn hyfforddiant pellach a mynd i Ysgol Nyrsio a Bydwreigiaeth St Bartholomew, Llundain. 


Ces i’r llythyr yn cadarnhau fy mod i wedi fy nerbyn ar 24 neu 25 Tachwedd 1992, oedd tua phedwar diwrnod ar ôl i fy mrawd farw o ffibrosis systig. Roeddwn i'n arfer gwneud rhywfaint o ofal clinigol fy mrawd, ac mae'n debyg bod gen i ryw syniad yn fy mhen y gallwn ei helpu mwy pe bawn i’n dod yn dda wrth y gwaith. Rhan o'r cymhelliant oedd fy mod i’n gwybod sut beth oedd bod gyda fy mrawd, gwybod beth aeth drwyddo, gwybod beth oeddwn i wedi mynd drwyddo, felly ar sail hynny, byddai’n beth da rhoi cynnig ar nyrsio.


Fe wnes i gais i ddechrau i wneud nyrsio iechyd meddwl, a chael fy nerbyn. Roeddwn i wedi cwblhau peth o’r hyfforddiant, ac fe ddywedodd un o'r tiwtoriaid, rwy'n credu y gallech fod yn well yn gwneud nyrsio oedolion, felly fe wnes i newid fy nghwrs, a chymhwyso fel nyrs oedolion ym mis Mawrth 1996.

 

Allwch fynd â ni drwy eich cyfnod fel nyrs a'r gwahanol rolau rydych wedi'u gwneud yn y maes nyrsio?

Roedd fy swydd nyrs staff gyntaf yn ysbyty St Thomas yn Llundain, ar ward feddygol gyffredinol. Yna symudais i wroleg, a sylweddoli’n gyflym mai'r hyn roeddwn i’n ei garu oedd nyrsio llawfeddygol. Rwy'n nyrs llawfeddygol o fy nghorryn i’m sawdl, ac roeddwn i wrth fy modd gydol fy nghyfnod ar y ward wroleg. Roedd yn gyfnod cwbl wych – cyfuniad o lawdriniaethau trwm difrifol ynghyd â phroblemau wrolegol hirdymor oedd angen ymyriad llawfeddygol, gydag wroleg feddygol, ac ati. 


Fodd bynnag, caeodd y ward pan unodd dau ysbyty ac fe wnaeth hynny fy ysgogi i fynd i weithio mewn gofal dwys. Roeddwn i’n mwynhau hyn oherwydd yr elfen gofal clinigol sylfaenol. Nid y peiriannau ac ati yw’r peth pwysig, ond gwneud y pethau sylfaenol yn iawn. Tra oeddwn i’n gweithio mewn gofal dwys, gorffennais fy ngradd Baglor mewn Gwyddor Nyrsio, a chymhwyso fel nyrs â diploma. Ces i fy ngwahodd wedyn i wneud cais am swydd nyrs ymchwil wroleg, ac fe ges i’r swydd. 


Roeddwn i’n gweithio gydag wrolegydd ymgynghorol o’r enw Chris Fowler, sydd bellach wedi ymddeol, ar brosiect ymchwil mawr, aml-ganolfan oedd yn cymharu dwy driniaeth lawfeddygol wahanol. Yna gofynnwyd i fi weithio gyda chleifion allanol, gweld cleifion a'u hasesu yn y bôn, ac yna gyflwyno fy asesiadau i'r ymgynghorydd, ac roedd hynny'n ddiddorol iawn ac yn gymharol anarferol ar y pryd. Tra oeddwn i’n gwneud hynny, rhwng 1998 a 2001, fe wnes i hefyd fy ngradd meistr mewn ffisioleg. 


Tra oeddwn i’n gweithio gyda Chris, daeth e’n arweinydd yn yr Ysgol Feddygol ar gyfer Addysg Feddygol, a gofynnodd i fi arwain ambell grŵp dysgu-ar-sail-problem. Dechreuais wneud hynny ochr yn ochr â fy ngwaith clinigol. Gadawodd y nyrs anhawster codiadau (AC) yr adran wroleg, a gofynnwyd i fi gyflenwi. Felly, dyma feddwl, pam lai? Yn y pendraw, fe wnes i redeg y clinig anhawster codiadau ochr yn ochr â fy ngweithgareddau addysgu tan i fi adael ym mis Rhagfyr 2014. Fe wnes i rywfaint o addysgu ar gyfer Prifysgol City, Llundain, sef lle’r oedd Ysgol Nyrsio a Bydwreigiaeth Sant Bartholomew yn y pendraw, pan aethon nhw i addysg uwch.


Yn 2002 des i’n ddarlithydd mewn Gwyddorau Biolegol Cymhwysol, ochr yn ochr â fy ngwaith clinigol. Yn 2005 ces i fy mhenodi’n uwch ddarlithydd, ac yna gofynnwyd i mi fod yn bennaeth adran dros dro ar gyfer Gwyddorau Biolegol Cymhwysol (2006). Rwy'n credu mai fi oedd yr unig un a ddywedodd, ie, pam lai?! Flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach, ces i fy mhenodi’n Bennaeth yr Adran Gwyddorau Biolegol Cymhwysol.


Ochr yn ochr â hyn, fe wnes i barhau i weithio yn y clinig, a dechreuais fy PhD mewn rheoli alldafliad cynamserol yn glinigol, yn gweld cleifion ar gyfer fy astudiaeth ar un llaw, a gweld cleifion ar gyfer gofal clinigol ar y llaw arall.  

Fe wnes i hefyd weithio i gwmnïau fferyllol, briffio meddygon teulu am reolaeth glinigol anhawster codiadau, ac ar yr un pryd, wrth addysgu anatomi a ffisioleg/pathoffisioleg gofynnwyd i fi gyfrannu at a gwaith o olygu ambell werslyfr. Gorffennais fy noethuriaeth, oedd yn ymdrin â rheoli alldafliad cynamserol yn glinigol ymhlith dynion Bangladeshaidd, yn 2009/10. O ganlyniad i hynny, gofynnwyd i fi siarad cryn dipyn am reoli alldafliad cynamserol, yn ogystal â rheoli anhawster codiadau. Ces i fy ngwahodd hefyd i fod yn adolygydd ar gyfer Macmillan ar anhawster codiadau mewn dynion â chanser y prostad, ac rwy’n dal i wneud hynny. 


Fe ddes i’n ddeon cyswllt nyrsio a bydwreigiaeth (2010), ac yn ddiweddarach yn ddeon cyswllt, a chyfarwyddwr astudiaethau israddedig yn yr Ysgol Iechyd, lle gweithiais tan fis Rhagfyr 2014. Wedyn, fe ymunais â PDC fel Deon y Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg ym mis Rhagfyr 2014.


Fe ges i gontract Er Anrhydedd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn yr Adran Wroleg yn 2015.  Rwy’n gwneud un clinig yr wythnos, neu ychydig o glinigau’r mis, mewn wroleg, yn  benodol anhawster codiadau.


Pam mae'n bwysig i chi barhau gyda’r nyrsio gweithredol ar y cyd â’ch gwaith yn y byd academaidd?

Mae'n debyg fy mod i’n eithaf profiadol o ran rheoli anhawster codiadau ac alldafliad cynamserol yn glinigol.  Rwy'n credu fy mod, mae'n debyg, yn un o ychydig iawn o bobl sydd â PhD mewn rheoli alldafliadau cynamserol yn glinigol, ac mae'n fy ngalluogi i fanteisio ar y profiad hwnnw, yn hytrach na'i adael heb ei ddefnyddio.


Mae cryn alw am y clinigau hynny, gyda rhestr aros hir, ac mae'n cael effaith eithaf dwfn ar yr unigolion a'u perthnasoedd pan fydd anhawster rhywiol o unrhyw fath yn taro. Rydw i eisiau parhau i geisio gwneud gwahaniaeth i bobl gymaint ag y gallaf.


Beth yw eich hoff beth am fod yn nyrs?

Y peth rwy'n ei garu fwyaf am nyrsio yw y gallwch chi wneud gwahaniaethau bach heb hawlio llawer o sylw. Rydych chi'n ceisio gwneud gwahaniaeth i bob claf, ond rydych chi'n anhysbys, felly does dim rhaid i chi fod ar flaen y llwyfan. Yn amlwg, mae'r claf yn gwybod ei fod yn cael ei nyrsio, ond dyw e ddim yn gwybod yn iawn pwy ydw i. Dim ond nyrs arall ydw i.


Rwy'n credu mai'r hyn sy’n bwysig i fi, a'r rheswm pam rwy'n dal wrthi, yw eich bod chi dal yn ceisio gwneud gwahaniaeth i'r person o'ch blaen, yn dal i geisio bod yn dosturiol, yn empathig, ac yn  gobeithio gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y ffordd fwyaf urddasol bosibl. 


Rwy'n hoffi gweithio yn y cefndir, yn ceisio annog llwyddiant mewn eraill, ac mewn nyrsio, mae'n caniatáu i mi geisio gwneud gwahaniaeth yn dawel fach 


Oes unrhyw beth wedi eich synnu am weithio yn y proffesiwn nyrsio? 

Roedd gen i feddwl agored pan es i mewn i nyrsio, ac yn sylweddoli nad oedd o reidrwydd yn arwain at gyrchfan benodol.


Rwy'n cofio rhywun yn dweud nad ydych chi'n dod o hyd i yrfa mewn nyrsio, mae'r yrfa'n dod o hyd i chi. Ac rwy'n credu bod nyrsio'n anhygoel oherwydd mor hynod eang y mae’r cyfleoedd, yr unig gyfyngiadau mewn gwirionedd yw eich dychymyg eich hun mewn ffordd. Ond rwyf hefyd yn cydnabod bod pobl eraill yn cyflawni rôl enfawr o ran eich cynnydd - mae cydweithwyr yn y GIG a sectorau gofal eraill wedi galluogi i hyn i gyd ddigwydd hefyd.


Mae nyrsys yn cael eu hystyried weithiau fel grŵp homogenaidd, a phan fyddwn yn sôn am nyrsio mae pobl yn tueddu i feddwl am nyrsio ar wardiau, ond yn amlwg, mae’n gymaint mwy na hynny.  Mae gyda ni gydweithwyr cymunedol, iechyd meddwl, anabledd dysgu, mae gyda ni dimau allgymorth, pob math o bethau, ond mae'n dueddol o gael ei ddistyllu i'r hyn sy'n digwydd yn yr ysbyty neu ar y wardiau.  Weithiau, dyw’r cyhoedd ddim wir yn deall talentau a sgiliau nyrsys.  


Rwy’n credu nad yw ‘gofal’ yn cael ei ddeall yn llawn, ond byddwch yn gwybod yn iawn pan fyddwch wedi cael gofal da.  


Sut rydych chi wedi gweld y proffesiwn nyrsio’n newid ers i chi ymuno ag e?

I fi, yr hyn sydd wedi newid, yn enwedig dros y ddeng mlynedd diwethaf o leiaf, yw bod llawer ,mwy o weithio mewn tîm. Rydyn ni’n dîm, yn sicr, heb hierarchaeth ormesol. Mae ’na hierarchaeth, yn amlwg, achos claf y meddyg ymgynghorol yw claf yn y pendraw, ond rydyn ni’n cael ein trin yn gydradd yn ein trafodaethau. 

Rwy’n meddwl bod pob cydweithiwr iechyd wedi dod i barchu nyrsio ac i sylweddoli bod gyda ni i gyd rywbeth i’w gynnig, a bod ein barn yn bwysig. 


Ac o ran nyrsio, fy mhrofiad i yw win bod yn parchu ac yn cydnabod doniau a phrofiad sydd gan weithwyr meddygol a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Rydyn ni’n ystyried ein gwaith fel gwaith tîm i ddatrys problem, a’r claf sydd wrth ganol y cyfan. Does dim lle i ego. Rydyn ni yno i wneud ein gorau dros y claf, ac os oes gan fferyllydd syniad gwell, fe awn ni at y fferyllydd. Nes os yw’r ffiseo’n dod â syniad da, fe awn at y ffiseo. Mae fy mhrofiad i wedi bod yn llawer mwy cydweithredol a llai hierarchaidd.


Beth fyddech chi’n dweud wrth fyfyriwr sydd ag awydd gyrfa mewn nyrsio? 

Ewch iddi gyda meddwl agored. Sicrhewch fod gyda chi wydnwch a’ch bod yn gwybod beth sy’n rhoi egni i chi. A rhowch ganiatâd i chi’ch hun i sylweddoli na fydd, efallai, yn addas ar eich cyfer chi. Achos dydw i ddim yn meddwl bod nyrsio’n addas i bawb. Rwy’n credu bod cost emosiynol ynghlwm wrth nyrsio, ac mae angen i chi ganfod ffordd o fod yn wydn achos mae angen iechyd da arnoch chi, yn gorfforol ac yn feddyliol, os ydych chi’n mynd i ofalu am rywun, achos byddan nhw’n dibynnu arnoch chi. 


Ymunwch â ni 

#ymchwil