Dyfarnu Cymrodoriaeth o £75k ar gyfer arbenigwr ynni adnewyddadwy
25-07-2023
Mae’r Athro Cyswllt o Brifysgol De Cymru (PDC), Tim Patterson, yn un o ddim ond 12 o raddedigion ac ymchwilwyr yn y DU yn y garfan ddiweddaraf o ddyfarnwyr Cymrodoriaeth Menter yr Academi Frenhinol Peirianneg (RAEng).
Yn arbenigwr mewn dadansoddi cylch bywyd nwyon adnewyddadwy, ac yn arbenigwr blaenllaw mewn dadansoddi cynaliadwyedd yng Nghanolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) Prifysgol De Cymru (PDC), derbyniodd Dr Patterson y dyfarniad o £75,000 i ddatblygu cwmni deillio a fydd yn cefnogi ymdrechion i hyrwyddo cynnyrch cynaliadwy a gwasanaethau’r farchnad ynni trwy gynhyrchu nwy methan synthetig.
Mae'r dechnoleg newydd y tu ôl i'r cwmni deillio yn integreiddio rhwydweithiau trydan a nwy trwy gataleiddio nwy hydrogen yn fiolegol, a gynhyrchir gan ddefnyddio trydan adnewyddadwy, a charbon deuocsid o ddiwydiant i gynhyrchu methan naturiol synthetig, sy'n cymryd lle nwy naturiol ffosil yn uniongyrchol.
Mae'r rhaglen sbarduno hon yn cynnwys 15 diwrnod o hyfforddiant, a ategir gan chwe mis o gymorth gan hyfforddwr busnes. Ochr yn ochr â hyn, mae’r entrepreneuriaid yn elwa ar flwyddyn lawn o fentora un-i-un gan arbenigwr blaenllaw mewn busnesau newydd a chwmnïau deillio peirianneg a thechnoleg.
Wrth groesawu’r anrhydedd, dywedodd Dr Patterson: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill Cymrodoriaeth Menter yr Academi Frenhinol Peirianneg.
“Mae’r ffaith bod yr Academi Frenhinol Peirianneg yn cydnabod effaith bosibl ein gwaith yn adlewyrchiad teilwng o’r blynyddoedd o waith caled y mae ein grŵp ymchwil, y Gyfadran, a thimau cymorth eisoes wedi’u neilltuo i’r maes hwn.
“Mae’r rhaglen hyfforddi, mentora a chymorth a ddarperir gan yr Academi Frenhinol heb ei hail a bydd yn rhoi hwb gwirioneddol i’n taith fasnacheiddio.
“Rwy’n edrych ymlaen at neilltuo’r 12 mis nesaf i gwrdd â llawer o heriau newydd a symud y dechnoleg yn sylweddol agosach at ei defnyddio.”
Mae Cymrodoriaethau Menter yr Academi Frenhinol Peirianneg wedi bod yn rhedeg ers 2011, gan gefnogi graddedigion ac ymchwilwyr i greu busnesau newydd a chwmnïau deillio aflonyddgar sy’n canolbwyntio ar beirianneg.
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

PDC yn gyntaf yn y DU ar gyfer profiad ymchwil ôl-raddedig
22-11-2023

Arbenigwr yn chwalu pum myth dewiniaeth
30-10-2023

Sut mae pêl-droed cerdded yn helpu chwaraewyr benywaidd yn ystod y menopos
24-10-2023

Cyfres Tyson Fury ar Netflix yn amlygu’r heriau iechyd meddwl y mae cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn eu hwynebu
29-09-2023

Lludw tanwydd maluriedig: sut y gallwn ailgylchu'r sgil-gynnyrch brwnt hwn o bwerdai glo
07-09-2023

Astudiaeth arloesol yn dangos effeithiau cyfergydion lluosog mewn chwaraewyr rygbi wedi ymddeol
16-08-2023

Dyfarnu Cymrodoriaeth o £75k ar gyfer arbenigwr ynni adnewyddadwy
25-07-2023

Ymchwil i driniaeth cyffuriau arloesol PDC
11-07-2023

PDC yn cadw Gwobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil
05-07-2023