'Mae cyfle wedi codi i roi hwb go iawn ymlaen.'

Dr Roiyah Saltus



Mae Dr Roiyah Saltus yn gymdeithasegydd ac yn ymchwilydd-actifydd. Mae hi'n Brif Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru.



"Mewn stori ddigidol fer a gafodd ei chynhyrchu ar gyfer un o fy astudiaethau, mae fy mam Solange yn sôn am y gwahanu hiliol a ddioddefodd, yr etifeddiaeth y cefais fy ngeni iddi. Mae'n sôn am y gymuned a'r rôl a chwaraeodd wrth feithrin ymdeimlad o’r hunan ar gyfer plant Du, ac mae'n sôn am wybod eich gwerth. Fy stori i yw ei stori hi.

Fe'm ganwyd yn Bermuda, yr ieuengaf o dri phlentyn mewn teulu o addysgwyr. Fy mam oedd Is-lywydd benywaidd du cyntaf Coleg Bermuda. Mathemategwyr oedd ei chwaer a'i brawd. Bu fy nhad yn gweithio fel athro am gyfnod byr, fel y gwnaeth fy chwaer. Doedd hi ddim yn syndod mewn gwirionedd y byddwn i’n datblygu diddordeb mewn addysgu.
 
Yn fenyw ifanc, roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn Affroganoliaeth, mewn pethau’n ymwneud â bywyd ysbrydol pobl Ddu, ac mewn cyfiawnder cymdeithasol. Roedd fy nhad yn frwd dros ddrama amatur a gadawodd y dramâu a gyfarwyddodd eu hôl ar fy mhlentyndod hefyd, dramâu oedd wedi eu hysgrifennu gan lawer o Americaniaid Affricanaidd, yn darlunio anawsterau a chryfder pobl a chymunedau.  

Yr un mor bwysig, efallai, yn ystod y blynyddoedd ffurfiannol hynny oedd y gweithiau gan Marcus Garvey, Alice Walker, Angela Davies, ac Audre Lorde a ddarllenais, a fy ymwneud â’r Mudiad Rastafari. Yn y coleg dechreuais ddarllen gwaith W.E.B DuBois a Zora Neale Huston. Dyna pryd y penderfynais ddilyn eu llwybr a throi fy sylw at fod yn wyddonydd cymdeithasol.

Ynys fach yw Bermuda - 21 milltir o hyd, 1.75 milltir ar ei lletaf – gyda thua 63,000 o drigolion. Dim ond un coleg sydd yno a rhaid gadael yr ynys os ydych chi am fynd i'r brifysgol! Gan ein bod yn dal i fod yn drefedigaeth Brydeinig (ac mae honno’n stori arall), mae llawer o bobl yn teithio i'r DU i astudio. Des i i'r DU ym 1990 i astudio ym Mhrifysgol Caint gyda Chymdeithaseg yn brif bwnc, ynghyd â llenyddiaeth Saesneg (gan ddewis yr opsiynau llenyddiaeth Ddu Brydeinig, Caribïaidd ac Affricanaidd wrth gwrs) ac yna gwnes i fy ngradd Feistr mewn Cymdeithaseg ac Astudiaethau Menywod ym Mhrifysgol Caerhirfryn. Llwyddais i ennill Ysgoloriaeth Wahaniaethol Bermuda UK a dalodd am fy ngradd israddedig ac Ysgoloriaeth y Gymanwlad a dalodd am fy astudiaethau PhD ym Mhrifysgol Essex.

Roedd fy mhwnc PhD - Bermuda Drefedigaethol: hierarchaethau o wahaniaeth, mynegiannau o bŵer  – yn archwilio tair pennod allweddol yn hanes Bermuda - y cyfnod rhyddfreinio caethweision, y mudiad pleidlais i fenywod a’r mudiad hawliau sifil yn y 1960au – ac yn ystyried y ffyrdd y mae hil, rhyw a dosbarth yn croestorri i lywio bywydau pobl a newidiadau cymdeithasol. O, roedd y dyddiau hynny'n wych! Roeddwn i wrth fy modd gyda'r adeg honno yn fy mywyd pan oeddwn i'n byw a bod gydag ymchwil. Mewn sawl ffordd mae llawer o fy mywyd academaidd yn parhau i fod wedi'i wreiddio yn y pryderon cymdeithasol sylfaenol hyn a'm cred yn y rôl y gall ymchwil ei chwarae wrth helpu i drawsnewid cymdeithas.
 

Sitting-Twighlight-Dr Roiyah-Saltus.jpg

Sitting in the Twilight: Wellbeing, Aloneness and Leisure - straeon mudwyr Caribïaidd, 80 oed +


Mae llawer o fy ngwaith yn ymwneud â’r anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol amrywiol sy'n wynebu pobl o boblogaethau sydd wedi eu gwthio i’r ymylon neu sy’n fudwyr neu’n lleiafrifoedd ethnig. Pam? Ces i fy hyfforddi fel cymdeithasegydd ffeministaidd ac mae fy niddordeb ymchwil yn parhau i fod mewn materion croestoriadol; yn benodol, y rhyngweithio rhwng rhyw, oedran a dosbarth cymdeithasol ymhlith grwpiau o boblogaethau mudol, neu rai sydd wedi eu hymylu neu eu hiliaethu, a’i effaith arnyn nhw.  


Yn ail, yn sgil fy mhrofiadau bywyd cynnar, mae cyfiawnder cymdeithasol yn llifo’n glir drwy fy ngwaith ac yn ei arwain. Fel ymchwilydd-actifydd, rwy’n deall y gall canfyddiadau ymchwil fod yn ffurf ar actifyddiaeth. Rwyf wedi bod yn gwneud ymchwil yn y maes hwn ers degawdau, gan orfod dwyn perswâd ar gyllidwyr, cydweithwyr ac eraill i ymgysylltu'n ystyrlon â'r materion hyn. Dyw hi ddim bob amser wedi bod yn hawdd - mae hynny'n sicr.


Suzanne-Duval.jpg

Suzanne Duval - Praisesongs from Wales


Dyw iechyd a lles ddim yn ymwneud â'n cyrff a'n ffisioleg yn unig, ond gyda’r patrymau rydyn ni’n eu creu ac sy’n cael eu creu o'n cwmpas: ein perthnasoedd, ein cartref, ein cymuned, ein heconomi a'n diwylliant. Mae dulliau ymchwil sy'n canolbwyntio ar y gymuned, sy'n seiliedig ar le, a 'ffyrdd o wybod' sy'n cynnwys y ffyrdd amlwg a’r ffyrdd llai amlwg o ddeall iechyd a lles bob dydd yn hanfodol wrth ddatblygu polisi ac ymarfer sy'n ceisio mynd i'r afael â'r canlyniadau iechyd a lles gwael sy'n parhau i effeithio ar boblogaethau tlotach, ymylol. Ers ugain mlynedd bron, rwyf wedi cynnal astudiaethau yn seiliedig ar flaenoriaethau'r trydydd sector a sefydliadau sydd wedi'u hangori yn y gymuned, ac ar anghenion grwpiau a rhanddeiliaid gwasanaethau. Rwy'n ceisio bod yn llais ar eu rhan, rhannu eu profiadau, mapio heriau a datblygiadau arloesol mewn gwasanaethau. Fy nod yw defnyddio asedau cymunedol a gwybodaeth leol ac yn y pen draw, defnyddio fy arbenigedd i drawsnewid y wybodaeth hon a chanfyddiadau'r ymchwil fel tystiolaeth ar gyfer llunio polisïau hyfyw.  


Mae atgyfodiad mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn sgil lladd George Floyd wedi arwain at ail-feddwl am ormes croestoriadol ledled y byd.  Mae cyfle wedi codi i roi hwb go iawn ymlaen. Fy ngobaith yw bod yr ymdrechion hyn - ym maes ymchwil o leiaf – yn dod yn fudiad ac nid yn rhywbeth byrhoedlog dros dro. Yr hyn y mae'r pandemig wedi'i ddangos yw y gall systemau newid a thrawsnewid yn gyflym iawn pan fydd yn rhaid iddynt.

Mae effaith fy ymchwil i o’r fath sy'n dod i'r amlwg yn araf, yn aml yn cael ei gwreiddio yng ngwaith pobl eraill, ac felly nid un dimensiwn yn unig sydd iddi. Er enghraifft, mae astudiaeth iechyd meddwl a gynhaliwyd yn 2002 wedi arwain at bartneriaeth ymchwil 19 mlynedd gyda sefydliad cydraddoldeb. Dros y cyfnod hwn, rydyn ni wedi cynnal astudiaethau, cyhoeddi erthyglau ac adroddiadau ac wedi datblygu strategaethau a blaenoriaethau ymchwil ar gyfer pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ac yn fwy diweddar, dementia. Un garreg filltir bwysig sydd ag ambell gysylltiad â'r bartneriaeth hon yw Cynllun Ardystio Arfer Dda yn y Gweithle DALlE, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac sy'n cael ei gyflwyno ar hyn o bryd ledled y GIG yng Nghymru. Mae fy ymwneud â  rhaglen RCBC Cymru y mae PDC yn ei rheoli wedi arwain at arloesi diweddar yn y broses recriwtio er mwyn sicrhau ein bod yn casglu data cydraddoldeb. Mae fy ymwneud hirsefydlog â hyrwyddo agenda cydraddoldeb PDC wedi arwain at chwarae rhan allweddol yn ein gwaith ar y Nod Siarter Cydraddoldeb Hiliol. Nid drwy ddamwain y mae’r cysylltiadau hyn wedi eu creu. Maen nhw’n destament i’r gwaith godidog sy’n cael ei wneud ar y cyd drwy ymgysylltu ar draws ystod o sectorau a rhanddeiliaid dros gyfnod maith.

Er gwaethaf yr heriau a'r newidiadau dros y blynyddoedd rwy'n dal wrth fy modd gyda fy mywyd academaidd. Byddwn wrth fy modd pe bai dim ond ychydig o'r gwaith rwyf wedi'i wneud gyda chyfranogwyr, partneriaid ymchwil a chymunedau, yn ogystal â grwpiau rhanddeiliaid polisi ac ymarfer, yn cael ei ddefnyddio i lywio ffyrdd newydd o wella bywydau pobl bob dydd."


PraiseSongs from Wales - Keith-Murrell

Praisesongs

 

Prosiectau nodedig



Astudiaeth i wella cyfleoedd ar gyfer gofal sylfaenol ac eiriolaeth mewn achosion o drais o fewn teuluoedd, yn dod â 35 o wledydd a mwy at ei gilydd (parhaus)

Gadael neb ar ôl – gwella llwybrau at wybodaeth am ddementia - blaenoriaethau dementia pobl DALlE hŷn yng Nghymru (2021)

Effaith COVID-19 ar gymunedau DALlE yng Nghymru  (2020)

Caneuon Mawl o Gymru - gofod creadigol ac adnodd ymchwil i ddathlu dynion a menywod hŷn o liw sy'n byw yng Nghymru, ac i ddatblygu archif storïol  ddigidol o'u bywydau, a drafodwyd hefyd yn yr erthygl hon yn Wales Review.

Sitting in the Twilight: Wellbeing, Aloneness and Leisure - straeon mudwyr Caribïaidd, 80 oed + (2018)

Mae astudiaeth fawr aml-safle a ariennir gan yr AHRC ledled y DU yn archwilio sut y gellir defnyddio profiadau cymunedau a adlewyrchir mewn celf greadigol (e.e. adrodd straeon, perfformiadau, celf weledol) fel tystiolaeth i lywio datblygiadau polisi a gwasanaethau'n gysylltiedig ag iechyd (2016)

"Go Home":Mapio natur ddadleuol ymgyrchoedd mewnfudo'r Swyddfa Gartref (2015)


Yn ogystal â PURE, gallwch weld rhagor o fanylion yma.