Newid Hinsawdd: trosedd ryngwladol?

Climate change flooding

Bydd academydd o Brifysgol De Cymru yn archwilio sut y gellir ystyried y newid yn yr hinsawdd fel trosedd ryngwladol  – yn sgil ymateb 'hynod annigonol' y ddynol ryw i'r argyfwng hinsawdd - gydag ymchwil wedi'i ariannu ar y cyd gan yr Academi Brydeinig ac Ymddiriedolaeth Leverhulme.

Bydd DrFilippos Proedrou, Uwch-ddarlithydd Economi Wleidyddol Fyd-eang, yn gweithio gyda Dr Maria Pournara, Darlithydd mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe, ar y prosiect.  Mae arbenigedd Dr Proedrou ym maes diogelwch a pholisi hinsawdd yr UE wedi cyfrannu at ei waith fel Cymrawd Academaidd gyda’r Senedd ar bolisi hinsawdd Cymru.

Nod yr ymchwil hon yw ymchwilio i’r ffordd y mae cynrychioli newid yn yr hinsawdd fel trosedd ryngwladol – a elwir hefyd yn ecoladdiad – yn ymgysylltu â gweithredu ar yr hinsawdd gan randdeiliaid gwleidyddol, a dechrau olrhain ei ddefnyddioldeb posibl ar gyfer dylunio polisi effeithiol.

Dywedodd Dr Proedrou fod y prosiect yn ceisio galluogi lle canolog i'r argyfwng newid yn yr hinsawdd: "Mae’r newid yn yr hinsawdd yn dal yn broblem barhaus, ac ymateb y ddynol ryw’n parhau’n hynod annigonol ac yn gwbl anaddas at y diben.

"Yn erbyn cefndir argyfwng hinsawdd sy'n gwaethygu ac sydd angen ymateb cymesur, bydd y prosiect rhyngddisgyblaethol hwn yn mapio sut mae dulliau troseddegol o ddeall y newid yn yr hinsawdd ac ymateb iddo yn cael eu cynrychioli mewn llenyddiaeth ysgolheigaidd ac mewn polisi, a bydd yn archwilio'r effaith bosibl y mae meddylfryd o'r fath yn ei chael ar ddeddfwriaeth hinsawdd.

"Bydd yr astudiaeth yn cynhyrchu data empirig newydd trwy ganolbwyntio ar achosion yr UE a'r Fforwm Bregusrwydd Hinsawdd. Nod  y prosiect yw codi pontydd rhwng dau faes academaidd sy'n parhau i fod yn eithaf di-gyswllt;  polisi hinsawdd a throseddeg, gan gynnig mewnwelediadau gwerthfawr i lunwyr polisïau yn y Gogledd Byd-eang a'r De Byd-eang.

"Drwy fapio sut mae’r ffordd mae’r newid yn yr hinsawdd yn cael ei ystyried fel problem gymdeithasol a throseddol yn esblygu dros amser, bydd yn rhoi cipolwg ar ddealltwriaeth llunwyr polisi ac yn archwilio tueddiadau ynghylch gweithredu ar yr hinsawdd a’r hyn fydd ar gael i helpu llunwyr polisi yn y dyfodol. Drwy hyn, mae'n cyfrannu at y ddadl ynghylch cyfiawnder hinsawdd, yn ogystal â dealltwriaeth fwy dwys o'r llwybrau cysyniadol a allai arwain at weithredu mwy cadarn ar yr hinsawdd."

#research #featured