PDC yn ymuno â phartneriaid mewn carreg filltir bwysig o ran cynhyrchu hydrogen gwyrdd

Baglan Hydrogen Centre. Cop26. SWIC partnership

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) a'r cwmni hydrogen gwyrdd Protium, ynghyd â’u sefydliadau partner, Fuel Cell Systems Ltd ac Enapter, wedi dechrau gweithrediadau i gynhyrchu hydrogen gwyrdd ym Mharc Ynni Baglan.

Mae comisiynu Pioneer One yn garreg filltir bwysig yn y gwaith o adeiladu rhwydwaith o gyfleusterau cynhyrchu hydrogen ar gyfer seilwaith hydrogen gwyrdd y DU. Mae'r prosiect yn enghraifft o’r rôl hanfodol y gall hydrogen gwyrdd ei chwarae yn y gwaith o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr gan ddiwydiant.

Bydd y garreg filltir bwysig hon yn helpu i sbarduno newid a chynyddu graddfa ynni gwyrdd heb allyriadau fel rhan o'r ymgyrch i sero-net, ac yn hybu’r niferoedd sy’n defnyddio ynni gwyrdd. Ar waith yn llawn, bydd Pioneer One yn cynhyrchu hydrogen gwyrdd heb allyrru nwyon tŷ gwydr. Bydd hyn yn disodli hyd at 111 tunnell o CO2 y flwyddyn, sy'n cyfateb i blannu 4,440 o goed, neu orchuddio 34 o gaeau pêl-droed gyda choed, neu wrthbwyso allyriadau o 113 o deithiau yn ôl ac ymlaen rhwng Llundain ac Efrog Newydd.

Yn 2022, cyhoeddodd Protium bartneriaeth gyda PDC i ddefnyddio ei electroleiddydd 100kW cyntaf yng Nghanolfan Hydrogen y Brifysgol ym Maglan, Castell-nedd Port Talbot. Dyma electroleiddydd AEM integredig mwyaf y DU, wedi’i greu gan y brand dylunio a gweithgynhyrchu arobryn Enapter, fu’n gyfrifol am ddatblygu'r electroleiddydd AEM cyntaf i gynhyrchu hydrogen gwyrdd electrolytig ar raddfa fawr. Fuel Cell Systems Ltd, sy'n dylunio, cynhyrchu, ac integreiddio technolegau ail-danwyddo hydrogen, oedd yn gyfrifol am y gwaith integreiddio, gosod, a chomisiynu.

Mae’r broses o ddatblygu cyfleuster cynhyrchu hydrogen cyntaf Protium wedi cynnwys dylunio, gwaith safle, a gosod offer.

Cafodd gwaith gosod a chomisiynu'r Cyfleuster Cynhyrchu Hydrogen (CCH) ei gwblhau'r wythnos hon a bydd yn dechrau cynhyrchu hydrogen gwyrdd o radd celloedd tanwydd, gyda'r cynwysyddion storio hydrogen gwyrdd (CSHG) cyntaf bellach yn cael eu cynhyrchu.

Dywedodd Jon Constable, Prif Swyddog Asedau a Pheirianneg Protium: "Mae hon yn foment arbennig i'r tîm cyfan y tu ôl i hyn, yn Protium, PDC, FCSL ac Enapter. O ddechrau mis Ebrill bydd gennym ein cyfleuster cynhyrchu hydrogen cyntaf i weithredu'n fasnachol, fydd yn gallu cyflenwi cynwysyddion llawn hydrogen gwyrdd i gwsmeriaid.

"Rydyn ni’n falch ein bod wedi cyrraedd y pwynt yma, lle gallwn wneud i ddatgarboneiddio ddigwydd mewn diwydiant, a gallwn bellach ganolbwyntio ar gynlluniau mwy hirdymor i gynyddu ein gweithrediadau."

Dywedodd Tom Chicken, Prif Swyddog Gweithredol Fuel Cell Systems Ltd, "Dyma enghraifft ymarferol o gynhyrchu hydrogen gwyrdd yn weithredol. Mae partneriaid y prosiect wedi dangos bod technolegau hydrogen ar gael nawr a bod modd eu gweithredu mewn diwydiant. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o'r datrysiad datgarboneiddio."


Impact Awards - Jon Maddy

Wrth sôn am y fenter gydweithredol a’r hyn mae’n yn ei olygu ar gyfer datblygiad parhaus economi hydrogen Cymru, dywedodd Jon Maddy, Cyfarwyddwr Canolfan Hydrogen Prifysgol De Cymru: "Mae Prifysgol De Cymru wedi ymroi i ddatblygu technolegau hydrogen glân, ac rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda Protium i ddarparu menter hydrogen gwbl arloesol yn y DU.

"Mae hydrogen electrolytig yn hanfodol i'r newid i sero-net ac mae Pioneer One yn gam pwysig arall ar y daith bwysig hon."

Gall y cyfleuster gynhyrchu 40kg o H2 y dydd, sy'n golygu y gall Protium ddarparu 10 CSHG hydrogen yr wythnos, yn barod i’w cyflenwi'n uniongyrchol i gwsmeriaid, i’w defnyddio at ddibenion fel treialon cerbydau, gen-setiau a gweithrediadau hydrogen cychwynnol eraill. Bydd modd i gwsmeriaid gasglu silindrau llawn hydrogen o gyfleuster Baglan.

Ychwanegodd Mr Constable: "Dyma'r enghraifft fwyaf o ddefnyddio electroleiddydd AEM Enapter yn y DU, ac er bod y cyfleuster hwn ar raddfa fach ar hyn o bryd, mae wedi'i gynllunio i alluogi datblygu'r gadwyn gyflenwi a hyfforddiant hydrogen wrth i ni barhau i ddatblygu cyfleusterau mwy o faint dros y pum mlynedd nesaf.

"Rydyn ni i gyd wedi dysgu llawer, ac mae'r prosiect wedi hwyluso datblygu gweithrediadau hydrogen diogel, sy'n hanfodol ar gyfer unrhyw systemau wedi’u seilio ar electroleiddyddion yn y DU yn y dyfodol."