Rhwydwaith ymchwil yn anelu at helpu i ddileu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
02-11-2021
Mae academyddion ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi sefydlu rhwydwaith ymchwil i weithio tuag at ddileu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV).
Arweinir y rhwydwaith ymchwil gan Dr Sarah Wallace, Uwch Gymrawd Ymchwil yn Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC), a Dr Emily Underwood-Lee, Athro Cysylltiol Astudiaethau Perfformio yng Nghanolfan George Ewart Evans ar gyfer Adrodd Storïau Prifysgol De Cymru. Fe'i cefnogir gan Gyfadran y Diwydiannau Creadigol a Chanolfan PRIME Cymru, ac mae'n cael ei lywodraethu gan grŵp craidd o academyddion, llunwyr polisi, ac ymarferwyr o'r sector VAWDASV yng Nghymru. Fe’i cefnogir hefyd gan aelod ymroddedig o staff Uned Atal Trais Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Y nod yw datblygu cymuned ymchwil gynhwysol i Gymru sy'n darparu fforwm diogel, agored i ddod â'r rhai sy'n gweithio tuag at roi diwedd ar VAWDASV ynghyd i osod agenda ymchwil y dyfodol, meithrin cydweithredu a datblygu ceisiadau am grant, ymgymryd ag ymchwil o ansawdd uchel, a gweithio tuag at ddileu VAWDASV.
Dywedodd Dr Emily Underwood-Lee: "Mae'r dirwedd ddiwylliannol a chymdeithasol yn newid yn gyflym. Arweiniodd y pandemig, a'r cyfyngiadau symud cysylltiedig, at gynnydd mewn ymwybyddiaeth o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) a chynnydd esbonyddol yn y galw am wasanaethau VAWDASV.
"Tynnodd COVID sylw hefyd at bwysigrwydd gofal a chyd-gysylltedd ein cymunedau a sut rydym i gyd yn elwa pan fyddwn yn cefnogi ein gilydd. Mae Cymru'n arwain y ffordd yn neddfwriaeth VAWDASV ond nid oedd rwydwaith a ddaeth ag ymchwilwyr a'r sector VAWDASV ynghyd. Y bwlch hwn y mae Rhwydwaith Ymchwil Cymru ar gyfer VAWDASV yn gobeithio mynd i'r afael ag ef.
"Roedd Sarah a minnau wedi bod yn gweithio ar brosiectau VAWDASV ond nid oeddem wedi gweithio gyda'n gilydd o'r blaen. Cysylltodd Sarah a gwelsom fod llawer i'w ennill o ddod â'n harferion gwahanol, ond cysylltiol at ei gilydd ac felly datblygodd y syniad ar gyfer y rhwydwaith. Gobeithiwn y bydd y rhwydwaith yn meithrin y math hwn o gydweithio rhyngddisgyblaethol ar raddfa ehangach."
"Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar y straeon y mae pobl yn eu hadrodd am eu bywydau. Drwy gofnodi straeon goroeswr, gallwn ymhelaethu ar eu lleisiau. Drwy wrando ar ystod amrywiol o straeon goroeswr, gallwn sicrhau bod llais goroeswr wrth wraidd y sector VAWDASV."
Cyn mynd i'r byd academaidd, bu Dr Sarah Wallace yn gweithio yn y sector yn cefnogi menywod a dynion a oedd wedi profi cam-drin domestig. "Mae fy ymchwil wedi canolbwyntio'n bennaf ar oroeswyr gwrywaidd cam-drin domestig gan gynnwys canolbwyntio ar eu hanghenion a'u profiadau," meddai. "Rwyf wedi ymrwymo i gydnabod a chefnogi'r holl oroeswyr a'm gobaith yw y byddwn, drwy bartneriaethau penodol a adeiladwyd drwy'r rhwydwaith, yn cynhyrchu ymchwil ac yn rhannu gwybodaeth ac arbenigedd i lywio newid cadarnhaol i oroeswyr, y sector ac arfer/cymorth ehangach."
Caiff Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru ei lansio’n swyddogol ar 25 Tachwedd ar Gampws Caerdydd PDC, a fydd hefyd yn nodi’r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod.
Cynhelir y digwyddiad rhwng hanner dydd a 2.30pm a bydd yn cynnwys prif areithiau gan Jane Hutt MS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn ogystal â thrafodaeth banel yn ymdrin â phynciau allweddol ym maes VAWDASV. Bydd myfyrwyr MA Drama o PDC hefyd yn perfformio datganiad barddoniaeth fel rhan o'r lansiad.
Cadeirir y drafodaeth banel gan Dr Emily Underwood-Lee, gyda phanelwyr yn cynnwys:
- Nancy Lidubwi, Swyddog Polisi Trais yn erbyn Menywod, BAWSO
- Lara Snowden, Arweinydd Rhaglen Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Debbie Woodroffe, Pennaeth Hyfforddiant ac Ymchwil, Llwybrau Newydd
- Tina Rees, Pennaeth Gwasanaethau ac Ymgysylltu â Goroeswyr, Cymorth Menywod Cymru
Cysylltwch â Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV trwy Trydar @VAWDASVWales i gael mwy o wybodaeth am ei weithgareddau ymchwil.
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Canmol ffilmiau dylanwadol gan ymchwilwyr PDC yn nigwyddiad San Steffan
01-07-2022

Llongyfarchiadau i'n cydweithwyr academaidd sydd newydd gael dyrchafiad
13-06-2022

Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys: yr Athro Martin Steggall
12-05-2022

Dathlu ymchwil ysbrydoledig gyda Gwobrau Effaith ac Arloesi PDC
05-05-2022

Athro PDC yn dod yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
03-05-2022

Pedwar academydd PDC yn cael eu dewis ar gyfer rhaglen ymchwil Crwsibl Cymru
29-04-2022

Hyfforddiant Anabledd Dysgu gwybodus PDC yn cael ei gyflwyno'n genedlaethol
01-04-2022

O Her, daw Newid
08-03-2022

Gwyddonydd blaenllaw o PDC yn derbyn £50,000 o gyllid gan Wobrau Menywod mewn Arloesedd i ddatblygu prawf heintiad y llwybr wrinol
08-03-2022