Wythnos Mynediad Agored Ryngwladol
24-10-2022
Beth yw Mynediad Agored?
Mae mynediad agored yn golygu gwneud eich allbynnau ymchwil ar gael am ddim ar-lein. Y nod yw sicrhau y gall unrhyw un yn unrhyw le yn y byd allu darllen yr ymchwil/cyhoeddiad a gwybod at ba bwrpas y gallant ei ddefnyddio.Drwy ddefnyddio mynediad agored, gall awduron ymestyn cyrhaeddiad eu hymchwil, gan ganiatáu i ddarllenwyr gael mynediad at ddeunydd a fyddai fel arall y tu ôl i waliau tâl tanysgrifio neu systemau eraill â chyfyngiadau arnynt.
Gelwir y ddau brif lwybr ar gyfer mynediad agored yn Wyrdd ac Aur. Gellir dilyn y llwybr Gwyrdd drwy osod llawysgrifau a dderbynnir mewn storfa sefydliadol, Pure a'r USW Research Explorer yn ein hachos ni. Y llwybr Aur yw pan fo cyhoeddwr yn derbyn tâl i gyhoeddi'r erthygl ar eu platfform gyda thrwydded Mynediad Agored (MA). Yn PDC, rydym yn ffafrio'r llwybr Gwyrdd trwy osod fersiwn gydymffurfiol o’r papur yn Pure.
Pam mae'n bwysig i mi
Ar ba bynnag gam o’ch gyrfa ymchwilio rydych chi, mae sicrhau bod eich gwaith ar gael i'r gynulleidfa ehangaf bosibl yn mynd i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith yr ymchwil. Gall gwneud gwaith ar gael am ddim gynyddu faint mae’n cael ei ddyfynnu gan eraill, a chynyddu'r potensial ar gyfer ymchwil gydweithredol. Mae porwyr fel Google Scholar yn chwilio deunyddiau Mynediad Agored sydd wedi eu gosod mewn Storfeydd Sefydliadol gan gynyddu amlygrwydd eich gwaith.Mae cydymffurfio â gofynion Mynediad Agored yn ofyniad hanfodol gan gyllidwyr ymchwil yn y DU, gan gynnwys yr UKRI. Felly, os ydych chi wedi awduro allbwn o ymchwil sydd wedi derbyn cyllid ymchwil allanol mae angen i chi wirio a sicrhau eich bod yn bodloni unrhyw ofynion mynediad agored.
Nid yw eitemau nad ydynt yn cydymffurfio yn gymwys ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth mewn Addysg (REF).
Sut i gydymffurfio â gofynion MA
Ar gyfer prosiectau wedi’u hariannu gan UKRI, dylai awduron wirio’r gofynion cyllido. Newidiodd UKRI eu Polisi MA yn 2022, felly gallai’r gofynion gynnwys elfennau sy'n newydd i awduron. Ar gyfer pob cyhoeddiad sy'n deillio o waith nad yw wedi’i gyllido’n allanol, dylai awduron PDC wneud y canlynol:
> Beth: Erthyglau cyfnodolion a phapurau cyhoeddedig cynadleddau
> Ble: Gosod copi o'r Llawysgrif a Dderbyniwyd gan yr Awdur* yn Pure
> Pryd: O fewn tri mis o’i dderbyn
*Y Llawysgrif a Dderbyniwyd gan yr Awdur yw testun terfynol testun yr erthygl neu'r papur ar ôl adolygiad gan gymheiriaid, ond cyn cysodi neu fformatio gan y cyhoeddwr.
Help a rhagor o wybodaeth
Yn aml, gall cydymffurfio â gofynion mynediad agored fod yn anodd ei lywio ac felly dyma ambell adnodd, a gwybodaeth bellach a all helpu.
- Canllaw Mynediad Agored
- How to add outputs to Pure
- Cwestiynau Cyffredin Mynediad Agored PDC
- Cyflwyniad i Fynediad Agored Cyrsiau hyfforddi
Fideos
- Cyflwyniad i Fynediad Agored - 1 awr
- Sut i Gydymffurfio â Pholisi Mynediad Agored REF yn PDC - 20 munud
- Sut i uwchlwytho papur i Pure – 15 munud
- Cytundebau Darllen a Chyhoeddi (Opsiynau Cyhoeddi Mynediad Agored) – 20 munud
Polisïau perthnasol
Gallwch hefyd gysylltu â Nicholas Roberts, Llyfrgellydd Ymchwil, am gyngor a chymorth.
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Wythnos Mynediad Agored Ryngwladol
24-10-2022

Penodiadau newydd i Rolau Athrawon ac Athrawon Cysylltiol
13-09-2022

Astudiaeth WIHSC yn taflu goleuni ar un o weithluoedd cudd Cymru
08-09-2022

Newid Hinsawdd: trosedd ryngwladol?
07-09-2022

Canmol ffilmiau dylanwadol gan ymchwilwyr PDC yn nigwyddiad San Steffan
01-07-2022

Llongyfarchiadau i'n cydweithwyr academaidd sydd newydd gael dyrchafiad
13-06-2022

Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys: yr Athro Martin Steggall
12-05-2022

Dathlu ymchwil ysbrydoledig gyda Gwobrau Effaith ac Arloesi PDC
05-05-2022

Athro PDC yn dod yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
03-05-2022