24-08-2020
Dr Penny Holborn
Dyfarnwyd £32,420 i PDC gan Y Sefydliad Iechyd i ymchwilio i wasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned.
Gan weithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Grŵp Cydweithio Modelu GIG Cymru, bydd y prosiect pum mis o hyd yn archwilio'r llwybrau gwahanol a brofir gan gleifion mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac yn ystyried effaith newid diweddar i'r model gwasanaeth ar gleifion.
Dywedodd y prif ymchwilydd, y Dr Penny Holborn, sy'n wyddonydd data ac sy'n arbenigo mewn defnyddio technegau dadansoddol i ddatrys problemau'r byd go iawn: "Yn y blynyddoedd diwethaf, mae modelau newydd wedi'u datblygu ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned. Er bod y rhain wedi cynyddu capasiti cyffredinol y gwasanaeth, nid ydynt wedi symleiddio'r llwybr na gwella'r llif i'r graddau bod anghenion y claf yn cael eu diwallu yn y modd mwyaf effeithiol. Y canlyniad yw ein bod yn dal i weld oedi ac o bosibl yn gwastraffu capasiti."
Dywedodd yr Athro Paul Roach: "Rydym yn gyffrous iawn i ddechrau arni. Mae'r prosiect hwn yn caniatáu inni ymgysylltu â darparwyr gofal iechyd yma yng Nghymru ar adeg pan maent o dan bwysau sylweddol, ac mae'r pwysau hwnnw'n debygol o gynyddu o ganlyniad i'r pandemig presennol. Mae'n cynnig gwir botensial am welliannau i brofiad cleifion ac i ryddhau capasiti mewn gwasanaeth sydd eisoes â gormod o alw."
Bydd canfyddiadau'r astudiaeth yn cael eu defnyddio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Grŵp Cydweithio Modelu GIG Cymru a byrddau iechyd eraill ledled Cymru sy'n ceisio datblygu gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol, yn ogystal â gyda chynulleidfaoedd gofal iechyd ac academaidd eraill, i rannu arfer da a chodi ymwybyddiaeth o adnoddau gwella gwasanaethau.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o'r prosiect ehangach "Hyrwyddo cyd-ddatrys problemau dadansoddol gan adeiladu ar Grŵp Cydweithio Modelu", sy'n rhan o raglen gallu adeiladu’r Sefydliad Iechyd. Mae'r Sefydliad Iechyd yn elusen annibynnol sydd wedi ymrwymo i sicrhau gwell iechyd a gofal iechyd i bobl yn y DU.
13-11-2020
12-11-2020
02-10-2020
24-08-2020
07-08-2020
21-07-2020
17-07-2020
03-07-2020
05-05-2020