Dyma rai cynghorion gan ein Tîm Derbyniadau a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich Digwyddiad Dethol Addysg Gynradd.
Ymlaen llaw
- Cewch gymaint o brofiad ymarferol ag y gallwch. Gall hyn fod drwy waith gwirfoddol gyda phlant (e.e. helpu gyda chlybiau/timau chwaraeon yn yr ysgol neu yn y gymuned) neu drwy brofiad gwaith mewn ysgol. Dyma'r ffordd orau i ddangos eich brwdfrydedd a'ch ymrwymiad. Nid yn unig y bydd yn rhoi cipolwg cywir i chi ar y byd addysgu go iawn, ond bydd hefyd yn rhoi digon o ddeunydd i chi siarad amdano yn y cyfweliad.
- Cymerwch olwg ar rai o'r profion llythrennedd a rhifedd ar-lein enghreifftiol.
- Gwnewch yn siŵr bod eich tystlythyrau yn gyfredol ac yn dal yn hapus i rhywun gysylltu â nhw.
- Ailddarllenwch eich ffurflen gais a'ch datganiad personol. Byddwn yn gofyn i chi ymhelaethu arnynt ac felly byddwch yn barod i allu siarad amdanynt yn fanylach a rhoi enghreifftiau. Byddwch yn wybodus am newyddion a materion cyfoes addysgol. Er enghraifft, darllenwch TES a chymerwch olwg ar https://hwb.gov.wales/
- Darllenwch yr erthygl, meddyliwch am y prif bwyntiau y mae'r ysgrifennwr yn eu gwneud ac ystyriwch eich safbwyntiau a'ch ymatebion i'r pwyntiau hyn.
- Cynlluniwch eich cyflwyniad unigol o sut y byddech yn addysgu sgìl newydd i grŵp o blant. Meddyliwch sut y byddwch yn esbonio sut y byddech yn addysgu'r sgìl hwn gydag amcanion dysgu clir, strwythur, cynnwys ac asesu. Byddwch yn barod i ddisgrifio sut y byddech yn ennyn diddordeb y dysgwyr a sut y byddech yn defnyddio amser ac adnoddau yn effeithiol.
- Meddyliwch sut y gallwch ddangos angerdd dros addysgu, angerdd dros ddysgu a dealltwriaeth o rai o'r ffactorau a all gael effaith ar ddysgu.
Paratowch ar gyfer cwestiynau cyffredin fel:
- Pam rydych chi eisiau bod yn athro/athrawes?
- Pam rydych chi wedi gwneud cais am y cwrs hwn?
- Pam rydych chi wedi dewis yn benodol i weithio gyda disgyblion oedran ysgol gynradd?
- Pa brofiad sydd gennych o weithio gyda phobl ifanc?
- Beth yw rhinweddau athro da yn eich barn chi? Meddyliwch am sut mae eich sgiliau a'ch priodoleddau'n cyd-fynd â'r rhinweddau sydd eu hangen i ysbrydoli dysgwyr.
- Beth wyddoch chi am rolau a chyfrifoldebau athro ysgol gynradd?
- Beth ydych chi'n ei ddeall am y newidiadau sy'n digwydd ym myd addysg yng Nghymru?
Ar y diwrnod
- Gwisgwch mewn dillad smart, cyfforddus. Cofiwch mai cyfweliad ar gyfer cwrs proffesiynol yw hwn.
- Byddwch ar amser! Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod lle mae angen i chi fynd a chyrraedd gyda digon o amser i'w sbario.
- Dewch â'ch prawf adnabod.Cymerwch ysgrifbin a phad ysgrifennu/iPad.
- Byddwch yn barod i gymryd rhan lawn yn y drafodaeth grŵp am bwnc erthygl cyfnodolyn byr, a chofiwch bwysigrwydd iaith y corff. Gwnewch eich hun sefyll allan ond hefyd dangoswch eich medrusrwydd wrth weithio mewn tîm. Mae'r manylion llawn i'w gweld yn y llythyr cyfweliad yma.
- Byddwch yn barod ar gyfer eich cyflwyniad unigol pan fyddwch yn esbonio i aelodau partneriaeth AGA PDC sut y byddech yn addysgu sgil newydd i grŵp o blant. Ni fydd gofyn i chi addysgu'r sgil mewn gwirionedd ond byddwn yn gofyn i chi esbonio'n glir sut y byddech yn ei addysgu. Gallwch ddod â nodiadau ac adnoddau gyda chi. Ni fydd gennych fynediad at unrhyw gyfleusterau TG ar gyfer y gweithgaredd hwn.
- Byddwch yn barod ar gyfer eich cyfweliad.
Bydd aelodau Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) PDC yn eich cyfweld. Yn ystod y cyfweliad, bydd y panel yn asesu tystiolaeth o'ch gallu i ddatblygu'r cymwyseddau canlynol:
- Sgiliau rhyngbersonol priodol, gan gynnwys y gallu i gyfathrebu â chynulleidfa broffesiynol ac academaidd.
- Meddwl priodol, gwerthoedd a thueddiad proffesiynol.
- Angerdd, ysgogiad a chymhelliant ar gyfer addysgu.
- Dealltwriaeth o rai neu bob un o'r ffactorau sy'n gallu effeithio ar ddysgu.
- Dealltwriaeth o rôl y Gymraeg ac ymrwymiad i ddatblygu/gwella eich sgiliau iaith Gymraeg.