09/02/2022
Mae Emma Kwaya-James, ein Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, yn ystyried Mis Hanes LHDTC+ yn amser i ddathlu a chofio.
Mae Emma yn siarad am bwysigrwydd #LGBTHM22 a gwaith y Brifysgol i gefnogi ein staff a'n myfyrwyr LHDTC+:
Mae mis LHDTC+ yn bwysig i fi’n bersonol fel adeg i ddathlu ac i gofio. Dathlu amrywiaeth croestoriadol gwych ein cymuned LHDTC+, cofio'r rhai sydd wedi colli eu bywydau, a thynnu sylw at y frwydr, yr erledigaeth a’r gormes parhaus a wynebir gan aelodau o'n cymuned LDHTC+ yn fyd-eang, yn genedlaethol ac yn lleol, a'n colled ein hunain fel teulu.
Rydyn ni’n cofio am farwolaeth anhymig Gustave Nana Ngongang a adwaenid yn aml fel Joel Nana, marwolaeth sy’n dal heb ei hesbonio. Bu farw Joel yn 2015 wrth ymweld â man yr oedd yn ei ystyried yn gartref iddo, Cameroon, yng Ngorllewin Affrica. Roedd Joel yn ddyn hoyw agored balch oedd yn eiriolwr hawliau dynol LHDTC+ blaenllaw yn Affrica ac yn actifydd HIV/AIDS, ond roedd hefyd, yn bwysicaf oll i ni, yn frawd, ewythr, partner, cyfaill a thad.
Fel prifysgol, mae gweithgarwch LHDTC+ wedi bod wrth wraidd ein hagenda cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gyda PDC yn safle rhif 24 ym Mynegai Stonewall 2020 a'r Cyflogwr Traws gorau. Yn anffodus, oherwydd y pandemig, ni wnaeth PDC gyflwyniad i'r mynegai yn 2021.
Ar hyn o bryd mae'r Brifysgol yn gweithio i ddatblygu ei Chanllawiau Traws ymhellach i gydweithwyr a Pholisi Newid Enwau i fyfyrwyr. Ochr yn ochr â hyn, y gobaith yw buddsoddi mewn sesiynau codi ymwybyddiaeth Traws parhaus ar gyfer cydweithwyr a myfyrwyr. Yn rhan o'n hymrwymiad i ddatblygu Cynllun Lles y Brifysgol gyfan, byddwn yn datblygu ac yn treialu system i adrodd yn gyfrinachol am wahaniaethu, yn rhan o'n polisi o beidio â goddef bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.