Mae partneriaeth Screen Alliance Wales yn galluogi myfyrwyr i weithio ar gynyrchiadau teledu blaenllaw

Mae myfyrwyr o Ysgol Ffilm a Theledu Cymru wedi cael y cyfle i weithio ar gynyrchiadau teledu mawr fel cyfres ddrama BBC, His Dark Materials yn ogystal â'r ddrama HBO dan arweiniad Lena Dunham 'Industry', a dwy gyfres o ddrama boblogaidd Sky One ` A Discovery of Witches' diolch i bartneriaeth unigryw rhwng Screen Alliance Wales a Phrifysgol De Cymru. 

Bydd y cytundeb tair blynedd yn gweld Screen Alliance Wales yn parhau i hyrwyddo’r gwaith rhyngddynt ac Ysgol Ffilm a Theledu Cymru tra hefyd yn darparu cyfleoedd a lleoliadau newydd i fyfyrwyr PDC. Maent hefyd wedi cyflwyno dosbarthiadau meistr, gweithdai a digwyddiadau ar gyfer ein myfyrwyr, ar Gampws Caerdydd ac mewn colegau partner. 

Bydd SAW hefyd yn parhau i weithio gyda PDC i ddatblygu partneriaethau posibl pellach, ac i weithio gydag ysgolion i hyrwyddo a beirniadu Gwobrau Ysgolion a Cholegau blynyddol Ysgol Ffilm a Theledu Cymru. 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rhoddwyd lleoliadau cysgodi i fwy na 50 o fyfyrwyr, a chyflogwyd 30 o fyfyrwyr mewn swyddi cyflogedig. Mae 500 o fyfyrwyr PDC arall wedi teithio o amgylch y Stiwdios i weld y tu ôl i'r llenni a chwrdd â thimau cynhyrchu. 

Dysgwch fwy am gyrsiau Diwydiannau Creadigol yn PDC.