Mae myfyrwyr a graddedigion PDC wedi dod â thiroedd, creaduriaid a bydoedd rhyfeddol yn fyw
19/11/2019
Mae mwy na 40 o fyfyrwyr a graddedigion o Ysgol Ffilm a Theledu Prifysgol De Cymru wedi bod yn gweithio ar gynhyrchiad y BBC o’r ddrama deledu newydd epig, His Dark Materials.
Mae His Dark Materials yn gynhyrchiad gan Bad Wolf, cwmni cynhyrchu sydd wedi’i leoli yn Ne Cymru, Llundain a Los Angeles.
Trwy eu menter addysgol ddi-elw Screen Alliance Wales (SAW), mae Bad Wolf yn parhau i ddatblygu perthnasoedd ag ysgolion, colegau a phrifysgolion lleol, gan adeiladu llwybrau gyrfa a chefnogi talent ifanc Cymreig.
Gan weithio gydag Ysgol Ffilm a Theledu Cymru PDC, mae Screen Alliance Wales yn hyrwyddo ystod eang o sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant ffilm, gan gynnwys hyfforddeiaethau, lleoliadau a chysgodi, a phorth rhwydweithio a swyddi ar-lein.
Dywedodd Tom Ware, Pennaeth Ysgol Ffilm a Theledu Cymru PDC:
"Mae pawb ym Mhrifysgol De Cymru wrth ein bodd ein bod, diolch i'n partneriaeth agos â Screen Alliance Wales, yn gallu creu cymaint o gyfleoedd i'n myfyrwyr a'n graddedigion weithio ar y gyfres arloesol hon. Mae gallu cefnogi cymaint o bobl ifanc dalentog nawr ac ar gyfresi'r dyfodol yn anrhydedd ac yn fraint."
Darganfyddwch eich potensial ym Mhrifysgol De Cymru a neilltuwch lle ar ddiwrnod agored, heddiw.