/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/41-undergraduate-student/profile-ug-tv-and-film-set-design-kirsty-dunlop-57205.jpg)
Mae cysylltiadau PDC â’r diwydiant wedi bod yn amhrisiadwy.
Sut nes i ganfod yr angerdd am ddylunio setiau
Kirsty ydw i, a dw i yn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio Dylunio Setiau Teledu a Ffilmiau yn PDC. Dewisais y cwrs hwn oherwydd mae’n dwyn ynghyd fy ddau brif ddiddordeb - ffilm a chelf. Ar ôl cael fy magu yng nghefn gwlad heb lawer o greadigrwydd, roedd symud i Gaerdydd ac astudio’r cwrs hwn yn teimlo fel cyfle euraidd i fynd ar drywydd y ddau ddiddordeb mewn un lle.
Hap a damwain oedd hi i mi ddarganfod y cwrs. Bues i’n astudio mewn coleg cyfagos, ac ro’n i’n aml yn pasio ffenestri PDC yn arddangos modelau a dyluniadau. Gwnaeth hyn ennyn fy niddordeb. Ar ôl mynd i Ddiwrnod Agored a gweld y cyfleusterau, cwrdd â’r darlithwyr a chlywed straeon llwyddiant gan raddedigion, roedden i’n gwybod mai PDC oedd y lle iawn i mi.
Dewch o hyd i'ch cwrsProfiad ymarferol a thargedau gyrfa
Mae cysylltiadau’r Brifysgol â’r diwydiant yn amhrisiadwy. Drwy Gynghrair Sgrîn Cymru, cefais leoliad profiad gwaith yn Doctor Who. Llwyddais hefyd i gael mentoriaeth Apple TV drwy Fwrsariaeth y Gymdeithas Deledu Brenhinol - cyfle euraidd sy’n cynnig cymorth misol a chyfle i fynd i ddigwyddiadau’r diwydiant.
Rhywbeth dw i’n fwyaf balch ohono yw prosiect yn gweithio ar ddylunio set ar gyfer ffilm fer yn ystod fy ail flwyddyn gyda thîm o gyfoedion. Roedd y profiad o weld ein syniadau’n dod yn fwy ar gamera, cydweithio’n hwylus gyda thîm ymroddgar a chyflawni deilliant proffesiynol yn talu ar ei ganfed.
Ar ôl graddio, dw i’n gobeithio gweithio ym maes celf cysyniadol neu greu fodelau, yn ddelfrydol mewn genres ffuglen wyddonol neu ddystopaidd. Mae PDC wedi fy arfogi gyda’r sgiliau technegol a chreadigol sydd eu hangen i ffynnu yn y diwydiant.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Dylunio?
Mae ein cyrsiau dylunio yn cael eu creu gyda diwydiant mewn golwg a'n nod yw eich paratoi ar gyfer y gweithle erbyn i chi raddio.