Amgylchedd Ymchwil

UNIONDEB YMCHWIL

Mae ymchwil PDC yn cynnal trylwyredd, uniondeb a phroffesiynoldeb.

Ymchwil Cefnogi ymchwil
Three members of staff, who are part of Ethnic Minority Research Advisory Group (EMRAG), sit around a table smiling and chatting with notepads and pens

Fel sy’n ofynnol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gydymffurfio’n llawn â Choncordat Prifysgolion y Deyrnas Unedig i Hybu Uniondeb mewn Ymchwil.

Dyma ein datganiadau cydymffurfio blynyddol:

Nid yw Fframweithiau ar gyfer Arferion Ymchwil Da wedi’u cyfyngu i Brifysgolion y Deyrnas Unedig a CCAUC. Mae PDC yn tanysgrifio i God Ymarfer Ymchwil Swyddfa Uniondeb Ymchwil y Deyrnas Unedig (UKRIO) a rhaid i’r holl ymchwil a wnaiff y Brifysgol ym maes iechyd gydymffurfio â’r Fframwaith ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Llywodraeth y Deyrnas Unedig).

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i’r egwyddorion canlynol o ran arferion da mewn ymchwil. 

Mae’r rhain wedi’u hamlinellu yng Nghod Ymddygiad Arferion Ymchwil Da PDC sy’n nodi: 

  • Bod gwerthoedd cyffredin o ran uniondeb a chywirdeb wrth wraidd ein hymchwil
  • Ein bod yn meithrin amgylchedd ymchwil sy’n cefnogi ymchwil o’r safonau uchaf o ran manyldeb a chywirdeb
  • Bod ein gweithgarwch ymchwil ac arloesi yn cydymffurfio â’r holl rwymedigaethau moesegol, cyfreithiol a phroffesiynol
  • Ein bod yn defnyddio prosesau tryloyw, cadarn a theg i ymdrin â honiadau o gamymddwyn
  • Ein bod yn parhau i fonitro, a lle bo angen, yn gwella addasrwydd a phriodoldeb y dulliau sydd ar waith i roi sicrwydd ynghylch uniondeb gwaith ymchwil 

 

Mae gan y Brifysgol brosesau cadarn ar gyfer ymdrin â honiadau o gamymddwyn academaidd, a phroses gymeradwyo foesegol wedi’i diffinio’n glir ar gyfer staff a myfyrwyr.

Lle bydd angen, mae’n ofynnol i bob aelod o staff academaidd a phob myfyriwr wneud cais am gymeradwyaeth moeseg ymchwil cyn cynnal unrhyw weithgarwch cysylltiedig. 

Mae gan bob cyfadran Bwyllgor Moeseg Ymchwil ac mae’r rhain yn cael eu harwain gan Gadeirydd Moeseg Ymchwil y Gyfadran. Gellir gweld y trefniadau Moeseg Ymchwil ar fewnrwyd y staff. 

Mae hyfforddiant cynhwysfawr i staff a myfyrwyr ar gael drwy'r Rhaglen Datblygu Ymchwil ac Arloesi.

Mewngofnodwch i fewnrwyd y staff i weld y tudalennau am lywodraethu ymchwil, polisïau a chanllawiau ynghylch:

  • Y Cod Ymddygiad Arferion Ymchwil Da 
  • Polisi Moeseg Ymchwil y Brifysgol 
  • Canllawiau Cyhoeddi ac Awdurdodi 
  • Camymddwyn mewn Ymchwil - gweithdrefn ar gyfer adrodd ac ymchwilio 
  • Polisi chwythu'r chwiban 
  • Diogelu Data (GDPR) 
  • Rheoli Data Ymchwil 
  • Mynediad Agored 
  • Protocol ATAL ar gyfer ymchwil sy'n gysylltiedig â diogelwch 
  • Matrics Risg Ymchwil ar gyfer cymeradwyo gwaith ymchwil sydd i’w gyflawni dramor neu sy'n peri risg sylweddol i ymchwilwyr, cyfranogwyr neu sefydliadau. 

Cysylltu

Y Rheolwr Llywodraethu Ymchwil yw’r pwynt cyswllt cyntaf os ydych chi’n chwilio am wybodaeth am Uniondeb Ymchwil neu unrhyw faterion cysylltiedig. 

Os bydd unigolion eisiau mynegi pryderon yn gyfrinachol am uniondeb unrhyw waith ymchwil sy’n cael ei wneud gan Brifysgol De Cymru, fe’u gwahoddir i gysylltu â Phennaeth y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi.

Y Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil sy’n goruchwylio uniondeb ymchwil ac sy’n sicrhau bod y wybodaeth hon wedi’i diweddaru ac ar gael i’r cyhoedd.