Byddwn yn canolbwyntio ein hymchwil ar bedwar maes: Arloesedd Creadigol; Trosedd, Diogelwch a Chyfiawnder; Iechyd a Lles; ac Amgylchedd Cynaliadwy.
Bydd ein gwaith yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) ac yn cynnwys diwydiant a chymunedau wrth gyd-ddylunio a chynhyrchu ymchwil sydd wedi’i hymgorffori yn ein cwricwlwm. Mae hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cyfrannu'n uniongyrchol at ddatrys heriau allweddol a nodir gan gyflogwyr a rhanddeiliaid.
Pwrpas craidd y Strategaeth yw creu diwylliant ymchwil cryf a ffyniannus sy'n galluogi cynhyrchu ymchwil rhagorol sy'n arwain y byd ac sy'n cael effaith.
Ein Strategaeth
Ym Mhrifysgol De Cymru, mae ymchwil ac arloesi yn fusnes i bawb. Mae ein gweledigaeth yn glir ac yn hyderus – rydym am gynnal a datblygu ein galluoedd ymchwil rhagorol yn rhyngwladol a chanolbwyntio ar atebion i broblemau sy’n effeithio ar gymdeithas a’r economi.
Ein Huchelgeisiau:
- Bod yn adnabyddus am addysgu a dysgu sy’n seiliedig ar ymchwil
- 75% o’n hymchwil yn cael eu dosbarthu fel rhai sy'n arwain y byd
- Meddu ar weithgarwch ymchwil ac arloesi rhyngddisgyblaethol trwy gynllun
- Creu a chynnal Grwpiau Ymchwil ac Arloesi (RIGs) cynaliadwy sy'n cyd-fynd â meysydd cyflymu’r Brifysgol
- Cael ei grwpio o amgylch bwriad strategol, polisi a meysydd ar gyfer buddsoddi a chyllid yn y dyfodol Llywodraeth y Cenhedloedd Unedig / Llywodraeth y DU, Cymru a’r UE a chyfrannu’n weithredol at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
- Cynyddu incwm Rhyngweithio Busnes a Chymuned AU (HE-BCI)
- Sicrhau bod pawb yn PDC, boed yn ymchwil weithredol ai peidio, yn adlewyrchu’r gwerth y mae ymchwil ac arloesi yn ei roi i’n myfyrwyr, staff a budd-ddeiliaid
- Gwneud cyfraniad amlwg at ddysgu ac addysgu yn seiliedig ar her a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth
- Datblygu ein staff drwy gymryd rhan mewn cynlluniau datblygu ac arwain
- Darparu amgylchedd meithringar a chynaliadwy i fyfyrwyr ymchwil