Amdanom Ni

Cynaliadwyedd

Rydym wedi ymrwymo i ysgogi newid cadarnhaol a chynaliadwy ar draws y Brifysgol gan ystyried cynaliadwyedd ym mhopeth a wnawn.

Amdanom Ni
Myfyrwyr yn cerdded ar hyd y llwybr coetir ar Gampws Trefforest

Rydym am arwain, ysbrydoli a chydweithio â’n staff, myfyrwyr a chymunedau lleol i gofleidio diwylliant cynaliadwy ar y cyd sydd o fudd i bob un ohonom ac sy’n lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd.


Mae ein Polisi Amgylchedd a Chynaliadwyedd a'n amdanom-cynaliadwyedd-strategaeth-garbon-2020-2030 yn llunio ein camau gweithredu a'n dull o ymgorffori cynaliadwyedd yn ein gweithgareddau o ddydd i ddydd ac ysgogi gwelliant parhaus mewn perfformiad amgylcheddol mewn ffordd strwythuredig.

Er mwyn ein cefnogi ar y daith hon, fe wnaethom sefydlu Pwyllgor Cynaliadwyedd sy'n darparu llywodraethiant, cyfeiriad a chraffu ar ein gweithgareddau cynaliadwyedd ac yn adolygu ac yn monitro cynnydd yn erbyn strategaeth Sero Net y Brifysgol o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau bod lleihau carbon yn cael ei gyflawni'n barhaus. 

Mae aelodaeth yn cynnwys gwasanaethau proffesiynol, academyddion, cynrychiolaeth myfyrwyr ac undebau ac mae'n cael ei gadeirio gan ein Prif Swyddog Gweithredu sy'n aelod o Fwrdd Gweithredol PDC. 

Gallwch ddarllen cylch gorchwyl ac aelodaeth y pwyllgor. Adroddir ar gynnydd yn erbyn targedau ac adroddiad blynyddol drwy Fwrdd Gweithredol y Brifysgol a Phwyllgor Diwylliant, Pobl a Gwerthoedd Bwrdd y Llywodraethwyr bob blwyddyn.

Rydym yn croesawu eich syniadau a’ch awgrymiadau ynglŷn â sut y gallwn wneud PDC yn fwy cynaliadwy.

Os hoffech ddysgu rhagor am waith y tîm cynaliadwyedd a sut y gallwch gymryd rhan mewn prosiectau a digwyddiadau, cysylltwch â ni drwy [email protected].

 

 

Ein Strategaeth

Rydym yn ymwybodol o’n cyfrifoldeb dros sicrhau ein bod yn cyflawni cynaliadwyedd ar draws ein dulliau addysgu, ein hymchwil a'n gweithrediadau ac adlewyrchir hyn yn ein strategaeth gorfforaethol.

Strategaeth 2030