Cynaliadwyedd

EIN CYFLAWNIADAU

Ym Mhrifysgol De Cymru, rydym yn ymroddedig i fod yn brifysgol enghreifftiol ar gyfer cynaliadwyedd yng Nghymru a thu hwnt, gan osod cynaliadwyedd wrth wraidd popeth a wnawn.

Amdanom ni Cynaliadwyedd
A member of staff planting flowers on campus

Rydym yn awyddus i fanteisio ar gyfleoedd i gael effaith gadarnhaol ac rydym yn falch o’n cynnydd hyd yn hyn ar ein taith at Sero Net erbyn 2040.


Cyflawniadau Allweddol

Rydym wedi lleihau cyfanswm ein hallyriadau carbon 33% ers 2018.

Daw'r holl drydan a ddefnyddiwn o ffynonellau adnewyddadwy 100%.

Rydym wedi gosod 400KW o baneli solar ar ein hadeiladau.

Mae gan fwy nag 85% o'n hystad oleuadau LED sy'n defnyddio ynni'n effeithlon.

MWY AR EIN CYFLAWNIADAU ALLWEDDOL

  • Mae’r Pwyllgor Cynaliadwyedd wedi pennu cyfeiriad strategol y Brifysgol yn unol â Map Trywydd Sero Net PDC ac mae wedi rhoi nifer o feysydd gwaith allweddol ar waith i gyflawni’r targedau tymor agos hyn.
  • Mae'r pum grŵp ffocws cynaliadwyedd wedi llwyddo i gyfuno sgiliau, gwybodaeth a brwdfrydedd staff a myfyrwyr o bob rhan o'r Brifysgol i rannu syniadau a rhoi mentrau cynaliadwyedd ar waith.
  • Mae ein grŵp Hyrwyddwyr Cynaliadwyedd wedi cynyddu ei aelodaeth i 68 o wirfoddolwyr, ac mae’n cyflawni gwaith ymgysylltu effeithiol drwy gyfarfodydd ffurfiol a thrwy ddulliau anffurfiol fel rhannu syniadau, digwyddiadau, a mentrau a fydd yn ein helpu i gyflawni ein targedau hirdymor.
  • Rydym wedi lansio ein ap Troi PDC yn Wyrdd sy'n gwobrwyo ‘Pwyntiau Gwyrdd’ am gamau amgylcheddol cadarnhaol sy'n hyrwyddo arferion byw cynaliadwy ac yn helpu PDC i gyrraedd ei tharged Sero Net erbyn 2040.

  • Rydym wedi lleihau ein hallyriadau carbon 33% o gymharu â llinell sylfaen 2018/19.
  • Ers 2018/19, mae PDC wedi cyflawni gostyngiad o 38% yn yr hyn a elwir yn allyriadau Cwmpas 1 a Chwmpas 2 – y rhai rydym yn eu hallyrru’n uniongyrchol drwy ddefnyddio nwy ar gyfer gwresogi, dŵr poeth ac awyru, ac allyriadau anuniongyrchol fel y trydan neu’r ynni rydym yn ei brynu.
  • Er ein bod wedi gweld cynnydd ym maint y campws a nifer y myfyrwyr, mae ein hallyriadau uniongyrchol (Cwmpas 1 a 2) wedi gostwng 41% ers 2005.
  • Rydym wedi adolygu data gwariant ein cadwyn gyflenwi yn y categorïau Cwmpas 3 sydd â’r effaith carbon uchaf, ac wedi gwella ein dealltwriaeth o'r data hwn gyda’r nod o leihau ein hallyriadau yn y meysydd sydd â’r effaith fwyaf.

  • Ers 2016/17, mae PDC wedi caffael yr holl drydan mae'n ei ddefnyddio gan ffynonellau sy’n hollol adnewyddadwy fel solar a gwynt ac rydym wedi ôl-osod ei hadeiladau i wneud y defnydd gorau o ynni.
  • Rydym wedi gosod gwerth 400kW o baneli solar ar doeau ein hadeiladau academaidd a phreswyl sy'n cynhyrchu 0.5% o gyfanswm ein galw am ynni ac rydym yn ymchwilio i osod paneli pellach yn y dyfodol.
  • Bu buddsoddiad mewn nifer o fentrau goleuo LED, gyda mwy nag 85% o'n hystâd bellach yn defnyddio goleuadau LED effeithlon gan dorri carbon a chost a gwella'r amgylchedd mewnol i fyfyrwyr a staff.
  • Mae pum mainc gwefru solar wedi'u gosod ar ein campysau yng Nglyn-taf, Trefforest a’r Parc Chwaraeon.
  • Rydym wedi gwneud gwaith dylunio er mwyn symud tuag at gynnal ein hadeiladau gydag egni cynaliadwy fel Pympiau Gwres o'r Awyr yn hytrach na nwy naturiol.
  • Rydym wedi buddsoddi yn ein System Rheoli Adeiladau i wella strategaethau rheoli ar gyfer ein peiriannau a'n hoffer adeiladu i arbed ynni.

  • Rydym wedi cyflwyno cynllun economi gylchol a chael gwared ar gwpanau untro o holl allfeydd arlwyo PDC. Yn eu lle, lansiwyd cynllun Cwpan PDC – menter blaendal/dychwelyd – ar gyfer myfyrwyr a staff. Gall cwsmeriaid hefyd ddefnyddio eu cwpanau eu hunain neu brynu un y gellir ei ailddefnyddio am bris rhatach.
  • Rydym wedi lansio ein cynllun ‘Afraid pob afrad’ law yn llaw â ‘Too Good to Go’ i leihau gwastraff bwyd manwerthu.
  • Mae biniau un ffrwd wedi’u cyflwyno ar draws yr ystâd i gyd-fynd â gofynion Llywodraeth Cymru i gefnogi eu strategaeth ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’.

  • Rydym wedi prynu saith fan drydan newydd a cherbyd cyfleustodau trydan ar gyfer y timau Ystadau a Chyfleusterau.
  • Rydym wedi prynu chwe pod gwefru solar i feiciau trydan er mwyn hybu'r defnydd o feiciau trydan fel dull teithio cynaliadwy.
  • Rydym wedi gosod wyth gorsaf wefru cerbydau ychwanegol, gan gynnwys uned gwefru cyflymder uchel 50kW, dwy uned 22kW ychwanegol ac un uned 25kW (ar ein campysau yng Nglyn-taf a Threfforest).

  • Rydym wedi datblygu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth 2023-26 newydd gydag amcanion a thargedau safle-benodol a fydd yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth ac ecosystemau cydnerth ar draws ein campysau.
  • Rydym wedi clustnodi ardaloedd penodol o Gampws Glyn-taf ar gyfer tir gwyllt er mwyn cynyddu bioamrywiaeth, blodau gwylltion ac amrywiaeth o rywogaethau.
  • Rydym wedi parhau i blannu coed ar gampysau Glyn-taf a Threfforest.
  • Rydym wedi gwella’r llwybr coetir yn Nhrefforest ac wedi darparu Hyfforddiant Rheoli Coetiroedd i chwe aelod o'r Grŵp Ffocws Bioamrywiaeth.