Amdanom ni

Cyhoeddiadau a Pholisïau

Mae'r Brifysgol yn cynhyrchu ystod o bolisïau a chyhoeddiadau allweddol i gefnogi a llywio ein hymchwil, ein haddysgu a'n gweithgareddau proffesiynol, a darparu diweddariadau ar weithgareddau a pherfformiad y Brifysgol.

Cipolwg ar Gyllid PDC Amdanom ni
three members of university staff having an informal meeting, smiling

Datganiadau Ariannol ac Adolygiad Blynyddol

Mae ein Datganiadau Ariannol a'n Hadolygiad Blynyddol yn myfyrio ar y flwyddyn academaidd flaenorol ac yn cynnwys y trefniadau llywodraethu a rhai o'n cyflawniadau, llwyddiannau a datblygiadau diweddar. Mae’r cyhoeddiad hefyd yn cynnwys trosolwg o’n perfformiad ariannol, gan gynnwys datganiadau ar incwm a gwariant, gan egluro’r prif dueddiadau a’r ffactorau sy’n debygol o effeithio ar ein perfformiad a’n sefyllfa yn y dyfodol.

2022/23
student-25

Cipolwg ar Gyllid PDC

Mae'r wybodaeth a'r dadansoddiad ariannol a ganlyn yn seiliedig ar sefyllfa ariannol Grŵp Prifysgol De Cymru (PDC) ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Gorffennaf 2023. Cyfeirir at y cyfnod hwn fel '2022/23' yn y testun. Mae Grŵp Prifysgol De Cymru yn cynnwys Prifysgol De Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac Y Coleg Merthyr Tudful.


cyhoeddiadau blaenorol

  • O dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, mae'n ofynnol i'r Brifysgol ddatblygu Cynllun Ffioedd a Mynediad bob blwyddyn. Mae’r cynllun yn nodi’r gweithgareddau y byddwn yn eu cyflawni i sicrhau cyfle cyfartal a mynediad teg i grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli mewn addysg uwch.

  • Mae'r Brifysgol wedi cynhyrchu Strategaeth Cronfa Arloesi ar gyfer Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ochr yn ochr ag astudiaeth achos sy'n dangos ein gwaith Cenhadaeth Ddinesig.


Oferyn ac erthyglau llywodraethu

Yr Offeryn ac Erthyglau Llywodraethu yw dogfennau cyfreithiol sylfaenol cyfansoddiad ac ymarfer Prifysgol De Cymru. Hefyd, maen nhw’n diffinio ffynonellau awdurdod a chyfrifoldebau o fewn y sefydliad.