Mae hyn yn nodi dull PDC o dalu a'r berthynas rhwng cyflog uwch reolwyr a chyflog gweithwyr eraill.
Grŵp Prifysgol De Cymru
Datganiad Polisi Cyflogau Blynyddol 2024
- Cyflwyniad
1.1 Mae Prifysgol De Cymru (PDC), gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Cyf., wedi ymrwymo i brif ffrydio cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy ei holl weithgareddau, yn ogystal â chyflawni'r dyletswyddau cyffredinol a phenodol a osodir arni drwy ddeddfwriaeth berthnasol.
1.2 Mae’r datganiad polisi hwn yn cydnabod pwysigrwydd strwythur cyflogau sy’n gyfartal i bawb, yn briodol, yn dryloyw, yn rhoi gwerth am arian ac yn gwobrwyo staff yn deg am y gwaith y maent yn ei wneud. Mae'r datganiad polisi hwn yn cyflwyno ymagwedd PDC at gyflogau a'r berthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol uwch arweinwyr a gweithwyr eraill. Fe’i lluniwyd yn unol â’r egwyddorion a amlinellwyd yn nogfen Llywodraeth Cymru, “Tryloywder cydnabyddiaeth ariannol uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru” a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2015.
- Fframwaith Deddfwriaethol
2.1 Wrth benderfynu ar gyflog a chydnabyddiaeth ariannol ei holl weithwyr, bydd PDC yn cydymffurfio â deddfwriaeth cyflogaeth berthnasol. Mae hyn yn cynnwys:
- Deddf Cydraddoldeb 2010;
- Rheoliadau Cyflogaeth Ran-amser (Atal Triniaeth Llai Ffafriol) 2000;
- Rheoliadau Gweithwyr Asiantaeth 2010;
- Lle bo'n berthnasol, y Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Enillion).
2.2. Er nad yw wedi’i rhwymo mewn cyfraith, mae PDC wedi dewis dod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol. Yn unol â hynny, mae’n dilyn egwyddorion a gofynion yr ymrwymiad hwn sy’n gweithredu trothwy isaf uwch na’r Cyflog Byw Cenedlaethol.
- Diffiniadau a'r Cyfrifoldeb am Benderfyniadau Cyflog
3.1 Mae Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol y Brifysgol yn adolygu cydnabyddiaeth ariannol yr Is-Ganghellor ac yn gwneud argymhellion i Fwrdd y Llywodraethwyr.
3.2 Mae’r Pwyllgor yn sicrhau bod unrhyw argymhellion yn deg ac yn ystyried budd, cynaliadwyedd ac enw da’r sefydliad yn ogystal â budd y cyhoedd ac yn diogelu arian cyhoeddus fel rhan o’i drafodaethau. Mae'n defnyddio gwybodaeth gymharol o Brifysgolion eraill i lywio ei benderfyniadau.
3.3 Mae'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol yn gwneud argymhellion i'r Bwrdd ar daliadau diswyddo i'r Is-Ganghellor; mae'r Pwyllgor Diwylliant, Pobl a Gwerthoedd yn argymell taliadau diswyddo i weithwyr uwch eraill i'r Bwrdd.
3.4 Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Pobl a Gwerthoedd yn adolygu cydnabyddiaeth ariannol deiliaid swyddi uwch, ac eithrio’r Is-Ganghellor, gan gynnwys:
- Dirprwy Is-Gangellorion
- Prif Swyddogion
- Deoniaid, Cyfarwyddwyr, Dirprwy Ddeoniaid a Deoniaid Cyswllt
- Ysgrifennydd y Brifysgol a Chlerc Bwrdd y Llywodraethwyr
- Prifathro (CBCDC) a Chyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau (CBCDC)
- Prifathro (Coleg Merthyr Tudful) a Dirprwy Brifathrawon (Coleg Merthyr Tudful)
3.5 Mae’r Pwyllgor yn sicrhau bod unrhyw argymhellion yn deg ac yn ystyried budd, cynaliadwyedd ac enw da’r sefydliad yn ogystal â budd y cyhoedd ac yn diogelu arian cyhoeddus fel rhan o’i drafodaethau. Pan fydd ar gael ac yn briodol, mae'n defnyddio gwybodaeth gymharol o Brifysgolion eraill i lywio ei benderfyniadau.
3.6 I weithwyr eraill ar draws y Brifysgol, mae PDC yn defnyddio dull systematig i bennu gwerth swyddi yn unol â'i strwythur cyflogau. Defnyddir system o'r enw 'HERA' (HE Role Analysis) ar gyfer pob swydd hyd at Radd J. Caiff y system hon ei defnyddio’n helaeth ar draws y Sector AU. Caiff system GRADR ei defnyddio ar gyfer swyddi Gradd K ac uwch (rolau Uwch Arweinyddiaeth).
- Telerau ac Amodau Cyflogaeth
4.1 Negodwyd Cytundeb Fframwaith Cenedlaethol gan Gymdeithas Cyflogwyr Prifysgolion a Cholegau (UCEA), a'r holl Undebau Llafur a gydnabyddir gan y sector AU ym mis Mai 2004 i ddiwygio strwythurau cyflogau, graddau a rhai telerau ac amodau ar draws y sector. Gweithredwyd hyn drwy gytundeb lleol rhwng y Brifysgol a’r undebau llafur perthnasol yn 2008, sy’n parhau yn ei le heddiw. Mae’r Cytundeb Fframwaith Cenedlaethol yn berthnasol i’r Brifysgol a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Cyf.
4.2 Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Cyf. yn cyflogi rhai gweithwyr ar delerau ac amodau gwahanol i'r rhai y cyfeirir atynt ym mharagraff 4.1 uchod, gan eu bod wedi'u diogelu gan Reoliadau TUPE.
- Trefniadau Cydfargeinio
5.1 Mae gan Brifysgol De Cymru berthynas gref â chydweithwyr yn yr Undebau Llafur ac mae'n gweithio'n agos gyda nhw ar faterion nad ydynt yn ymwneud â chyflogau. At ddibenion cydfargeinio ar delerau ac amodau cyflogaeth, caiff yr undebau llafur canlynol eu cydnabod drwy gytundebau lleol:
| Sefydliad | Undebau Llafur Cydnabyddedig |
|---|---|
| Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru | Undeb Prifysgolion a Cholegau ac Unsain |
| Prifysgol De Cymru | Undeb Prifysgolion a Cholegau, Unsain a GMB |
5.2 Mae dyfarniadau cyflogau ar gyfer yr adolygiad blynyddol o’r golofn gyflog (cyflogau hyd at bwynt 5.2 ar y golofn) yn cael eu negodi ar lefel genedlaethol ac yn cael eu harwain gan UCEA ar ran yr aelod-brifysgolion ar gyfer Prifysgol De Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Cyf.
5.3 Mae'r Brifysgol yn penderfynu'n flynyddol a fydd yn cymryd rhan mewn trafodaethau cenedlaethol. Mae gweithdrefn wedi’i chytuno ar gyfer negodi cyflogau, sy'n cynnwys tri chyfarfod rhwng UCEA a'r Undebau Llafur cynrychiadol. Caiff y cyfarfodydd hyn eu cynnal rhwng mis Mawrth a mis Mai bob blwyddyn ac mae'r adolygiad blynyddol yn weithredol o 1 Awst.
5.4 Y dull a fabwysiadwyd dros nifer o flynyddoedd yw bod yr un cynnydd mewn cyflog y cytunwyd arno’n genedlaethol yn cael ei gymhwyso i bob swydd uwch y tu hwnt i’r golofn gyflog genedlaethol.
- Egwyddorion Cyflogau
Ynghyd â threfniadau bargeinio cyflogau mae’r Brifysgol a’r Coleg yn mabwysiadu’r egwyddorion allweddol canlynol ar gyfer cyflogau:
6.2 Fforddiadwyedd a gwerth am arian – Ein hegwyddor yw parhau i fod yn effeithlon, yn effeithiol ac yn sefydlog yn ariannol. Wrth ystyried a ddylid cytuno i ddyfarniad cyflog cenedlaethol, mae ystyriaethau'r Bwrdd yn cynnwys fforddiadwyedd a gwerth am arian.
6.3 Cyflogau Cyfartal – Mae'r Brifysgol a'r Coleg wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu o ran cyflogau yn ei strwythurau cyflogau. Cwblhaodd y Brifysgol a CBCDC eu Harchwiliad Cyflog Cyfartal diweddaraf ym mis Mai 2020. Cynhaliwyd yr Archwiliad gan gyd-weithgor Undebau Llafur / rheolwyr yn unol â Chanllawiau Adolygiadau Cyflog Cyfartal Newydd JNCHES. Roedd yr Archwiliad yn cymharu cyflogau’r grwpiau nodweddion gwarchodedig (oedran, anabledd, hil, rhyw) i sicrhau y caiff cyflog cyfartal ei roi am waith cyfartal. Cafodd canfyddiadau'r Archwiliad a'r argymhellion eu hadrodd i'r Pwyllgor Cyflogau Staff Uwch ym mis Medi 2020 ac wedi hynny i Fwrdd Llywodraethwyr y Brifysgol. Bydd adroddiad ar yr adolygiad nesaf ym mis Medi 2024.
6.4 Bod yn agored a thryloyw – Mae'r Brifysgol yn cyhoeddi ei Datganiadau Ariannol a'i Hadolygiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31ain Gorffennaf, bob blwyddyn, sydd ar gael trwy'r ddolen hon. Mae hyn yn cynnwys cyflog yr Is-Ganghellor ac unrhyw uwch arweinwyr y telir dros £100,000 y flwyddyn iddynt.
6.5 Ffocws ar fynd i’r afael â chyflogau isel a chefnogi’r Cyflog Byw – Mae'r Brifysgol a'r Coleg wedi ymrwymo i egwyddorion cyflog cyfartal am waith o werth cyfartal ac yn gweithredu cynllun gwerthuso swyddi i fesur gwerth cymharol yr holl swyddi yn y strwythur cyflogau a graddio oddi mewn i fframwaith cyffredinol sy'n gyson, yn dryloyw ac yn deg. Mae'r Coleg a'r Brifysgol yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig.
- Strwythur Cyflogau a Chyflogau Cynyddrannol
7.1 Mae strwythur cyflogau perthnasol y Brifysgol i’w weld yn Atodiad 1. I staff cymwys, caiff dilyniant cynyddrannol oddi mewn i radd ddynodedig y swydd ei weithredu’n flynyddol ar 1 Awst oni bai y bu’r cyflogai ar bwynt cynyddrannol am lai na chwe mis cyflawn ar y dyddiad hwnnw (lle bydd dilyniant yn cychwyn y flwyddyn ganlynol).
7.2 Gallai dilyniant cynyddrannol gael ei ddal yn ôl pe caiff ei nodi a’i gadarnhau bod perfformiad yn anfoddhaol; neu pe caiff y cyfnod prawf ei ymestyn.
- Cyflogau a Thaliadau
8.1 Yn ogystal â chyflog gweithiwr, mae'r Brifysgol yn cynnig ystod gynhwysfawr o fuddion ariannol ac anariannol yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys:
- Caiff holl weithwyr PDC a CBCDC eu cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Athrawon. Mae gan weithwyr gwasanaethau proffesiynol presennol PDC a CBCDC fynediad at y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Er bod y cynlluniau hyn bellach yn gweithredu o dan fethodoleg Cyfartaledd Gyrfa, yn hytrach na Chyflog Terfynol, maent yn dal i ddenu cyfraniad ffafriol iawn gan gyflogwyr.
- Ar hyn o bryd mae'r Brifysgol yn gweithredu trefniadau aberthu cyflog mewn perthynas â gofal plant a chynllun beicio i'r gwaith ac mae'n cynnig hawl i wyliau blynyddol hael.
- Mae nifer o hyrwyddiadau a gostyngiadau ar gael i bob aelod o staff, er enghraifft: gostyngiad ar aelodaeth campfa mewn nifer o gampfeydd a gostyngiadau mewn llawer o siopau.
- Cymharu Cyflogau
9.1 Mae’r cyflogau isaf ym Mhrifysgol De Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn gysylltiedig â Gradd A, Pwynt Colofn Gyflog 3. Fodd bynnag, gan fod y Brifysgol yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig, telir cyflogeion ar gyfradd fesul awr eu pwynt ar y golofn gyflog barhaol neu gyfradd y Cyflog Byw, pa un bynnag sydd fwyaf. Yr aelod o staff sy’n cael y cyflog uchaf yw’r Is-Ganghellor. Ceir manylion cymharu cyflogau yn Atodiad 2.
- Talent yn PDC
Mae’r Strategaeth Pobl yn strategaeth alluogi sy’n cyd-fynd â PDC 2030. Mae'n nodi ein huchelgeisiau, ein hymrwymiad a'n nodau mewn perthynas â'n Pobl gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'w profiad, datblygiad, dilyniant, arweinyddiaeth, perfformiad, cyflog a thaliadau ac ati.
- Adolygu’r datganiad hwn
11.1 Mae'r datganiad hwn i'w gyhoeddi ar wefan y Brifysgol. Bydd yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n flynyddol gan y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol neu pan fydd newidiadau uniongyrchol yn digwydd.
Atodiad 1
Strwythur Cyflogau PDC a CBCDC
Atodiad 2
Cymharu cyflogau
| Cymarebau cyflogau (31ain Gorffennaf 2024) | Cymhareb ar gyfer Prifysgol De Cymru | Cymhareb ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru | |
|---|---|---|---|
| Cymhareb Isel i uchel |
Y lluosrif rhwng cyflog sylfaenol blynyddol y gweithiwr sy’n derbyn y cyflog isaf* a’r sawl sy’n derbyn y cyflog uchaf fel cymhareb | 1:9.61 | 1:10.33 |
| Cymhareb ganolrifol Isel i uchel |
Y lluosrif rhwng cyflog sylfaenol canolrifol y Brifysgol a'r gweithiwr sy'n derbyn y cyflog uchaf fel cymhareb | 1:5.66 | 1:4.82 |
*Yn defnyddio cyfradd y Cyflog Byw Gwirioneddol ar y dyddiad perthnasol
NODER: Mae’r cymarebau sy’n cael eu cyhoeddi yn y Datganiadau Ariannol ar gyfer Grŵp Prifysgol De Cymru ac felly maent yn amrywio o’r cymarebau a gyhoeddwyd uchod sydd ar gyfer dau aelod cyfansoddol o Grŵp Prifysgol De Cymru.
Atodiad 3 - Adroddiad Blynyddol Datganiad Polisi Cyflogau a Chydnabyddiaeth Ariannol Staff Uwch
Adroddiad Blynyddol Datganiad Polisi Cyflogau a Chyflogau Staff Uwch 2024 (Lawrlwytho PDF)