Ein Heffaith
Ers agor sefydliad cyntaf yr hyn yw PDC erbyn hyn – sef Sefydliad Peirianwyr Casnewydd – tua 180 o flynyddoedd yn ôl, mae ffocws y sefydliad yn dal i fod ar fynd i’r afael ag anghenion cymdeithasol, nid yn unig drwy ehangu mynediad at addysg uwch, ond drwy ddefnyddio ymchwil i gynnig atebion diwydiannol go iawn.
Amdanom Ni
Newid bywydau er gwell
Mae’r weledigaeth a osodwyd gan ein sylfaenwyr yn dal i fod wrth wraidd popeth rydym yn ei newid – newid bywydau a’n byd er gwell.
Strategaeth PDC 2030 yw ein canllaw ar gyfer y degawd hwn, ac mae’n ein cyfarwyddo yn y ffyrdd y byddwn ni’n gweithio mewn partneriaeth â byd diwydiant, cymunedau, a’r llywodraeth, i fynd i’r afael â chyfeiriad economaidd a chymdeithasol y byd o’n cwmpas.
Mae ein heffaith ar y rhanbarth, ar Gymru, ac ar wledydd Prydain, yn glir. De Cymru yw ein cartref, ond mae ein cyfraniad i’r economi a’r gymdeithas i’w deimlo ymhell y tu hwnt i’r rhanbarth rydym wedi’n lleoli ynddo.