Busnes
O ddatblygiad proffesiynol i gefnogaeth digwyddiadau a gwasanaethau llogi lleoliad, gallwn eich helpu i archwilio'r ffyrdd niferus y gall eich sefydliad weithio gyda'r Brifysgol
Holi nawr Ymuno â'n rhwydwaith busnesRydym ni’n falch iawn o gefnogi eich sefydliad drwy harneisio’r dalent, yr arbenigedd a’r cyfleusterau sydd gan Brifysgol De Cymru.
Yr hyn y gallwn ei gynnig
-
Y gwasanaeth hyfforddi proffesiynol arbenigol sy’n defnyddio technegau dysgu cymhwysol Prifysgol De Cymru i ddylunio, addasu a darparu rhaglenni hyfforddi sy’n grymuso staff a chynyddu effaith eu sefydliadau.
-
Manteisiwch ar amrywiaeth o gynlluniau, partneriaethau a rhaglenni a ariennir i elwa o’r adnoddau a'r arbenigedd sydd ar gael ym Mhrifysgol De Cymru.
-
Boed ar gyfer cynnal cyfarfodydd neu ddigwyddiadau, ffilmio neu gyfleusterau technegol, neu unrhyw beth arall, mae gan ein tri safle – yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd – y gofod i chi.
-
Cyfnewidfa PDC yw’r cam cyntaf ar gyfer datblygu partneriaethau cryf, sydd o fudd i’r ddwy ochr, sy’n mynd i’r afael â heriau byd-eang, gan annog cyfnewid gwybodaeth ac ysbrydoli arloesedd.