Datganiad Preifatrwydd

Gwasanaethau Masnachol Prifysgol De Cymru yw’r rheolydd data ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) newydd.

Darllenwch ein Polisi Diogelu Data
The University's Ty Crawshays building at Treforest, Pontypridd.

Bydd Gwasanaethau Masnachol Prifysgol De Cymru yn casglu’r wybodaeth bersonol ganlynol – enw, manylion cyswllt, dyddiad geni, manylion gwaith a gwybodaeth sy’n ymwneud â gofynion unigol.   
 
Cesglir gwybodaeth bersonol categori arbennig hefyd ar ffurf data monitro cydraddoldeb.  

Pan fydd unigolion yn defnyddio ein cyfleusterau, yn cofrestru ar ein cyrsiau a’n digwyddiadau, mae’n rhaid i Wasanaethau Masnachol Prifysgol De Cymru gasglu, storio, defnyddio a phrosesu data personol at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r canlynol:

  • Darparu gwasanaethau cymorth / Dibenion gweithredol (Y sail gyfreithiol – angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r contract)
  • Cyflwyno’r cwrs (Y sail gyfreithiol - angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r contract)
  • I roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am newyddion, cyrsiau a digwyddiadau (Y sail gyfreithiol – gyda’ch caniatâd* / lle mae diddordeb dilys**)
  • Er diogelwch (Y sail gyfreithiol – diddordeb dilys)  
  • I ymgymryd â gwaith ymchwil a dadansoddi ystadegol (Y sail gyfreithiol – diddordeb dilys)

*Pan fydd unigolyn wedi nodi yr hoffai gael rhagor o wybodaeth gan y Brifysgol, mae’r wybodaeth hon yn cael ei phrosesu gyda’i ganiatâd.   
 
**Mae Gwasanaethau Masnachol Prifysgol De Cymru / Cyfnewidfa Prifysgol De Cymru yn cadw manylion cyswllt sylfaenol gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn busnesau a allai fod â diddordeb yn y gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd ar gael o fewn ‘Cyfnewidfa PDC’ a ‘Gwasanaethau Masnachol PDC’. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei phrosesu ar y sail ei bod yn angenrheidiol ar gyfer buddiannau dilys Adran Gwasanaethau Masnachol y Brifysgol ac y gallai'r prosesu fod o fudd i'r holl bartïon.   

Lle bo angen, bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu’n fewnol ag unigolion sydd angen mynediad at y wybodaeth at ddibenion gweithredol. Bydd rhannu o’r fath yn amodol ar brotocolau cyfrinachedd a chyfyngiadau mynediad. 
 
Mewn rhai amgylchiadau, gall Gwasanaethau Masnachol Prifysgol De Cymru ddefnyddio gwasanaethau trydydd parti i brosesu data. Bydd unrhyw sefydliad sy’n prosesu data personol ar ran y Brifysgol yn rhwym wrth rwymedigaethau i brosesu data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Bydd data personol yn cael ei storio yn unol â’n hamserlen cadw.  

Mae deddfwriaeth diogelu data yn mynnu ein bod yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Mae hyn yn golygu y bydd eich cyfrinachedd yn cael ei barchu, ac y bydd pob cam priodol yn cael ei gymryd i atal mynediad a datgelu heb awdurdod. Dim ond yr aelodau staff sydd angen mynediad at rannau perthnasol neu’r holl wybodaeth fydd yn cael eu hawdurdodi i wneud hynny. 

Lle mae hynny’n bosibl, bydd data personol yn cael ei brosesu o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen trosglwyddo eich data y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
 
Mewn rhai amgylchiadau, gall y Brifysgol ddefnyddio gwasanaethau trydydd parti i brosesu data. Bydd unrhyw sefydliad sy’n prosesu data personol ar ran y Brifysgol yn rhwym wrth rwymedigaeth i brosesu data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data.   
 
Pan fydd prosesydd wedi’i leoli yn yr Unol Daleithiau, gellir trosglwyddo data iddynt os ydynt yn rhan o’r fframwaith Privacy Shield ac felly’n cydymffurfio â gofynion diogelu data. 

Pan fydd y Brifysgol yn dibynnu ar gydsyniad i brosesu data personol, mae gan unigolion yr hawl i dynnu eu caniatâd yn ôl a gallant wneud hynny drwy gysylltu ag [email protected]
 
Mae gan unigolion hawl i weld eu gwybodaeth bersonol eu hunain, i wrthwynebu prosesu eu gwybodaeth bersonol, i gywiro, i ddileu, i gyfyngu ac i drosglwyddo gwybodaeth bersonol.  
 
Mae rhagor o wybodaeth am hawliau unigol ar gael ar dudalennau gwe Diogelu Data'r Brifysgol. 
 
Dylid cyflwyno unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol: 
 
Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol 
Prifysgol De Cymru 
Pontypridd 
CF37 1DL  
 
E-bost: [email protected]  
 
Os yw unigolion yn anfodlon â'r ffordd y mae eu data personol wedi cael ei brosesu, gallant gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol yn y lle cyntaf gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.  
 
Os na chaiff y gŵyn ei datrys, gellir mynd â’r mater at y Comisiynydd Gwybodaeth i gael penderfyniad. Gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad isod:
 
Information Commissioner’s Office 
Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Cheshire 
SK9 5AF 
 
www.ico.org.uk