Polisïau a Chanllawiau
Mae Polisi Diogelu Data'r Brifysgol yn manylu ar sut y bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu gan y Brifysgol ac mae’n berthnasol i weithwyr, contractwyr, partneriaid y Brifysgol a chydweithwyr allanol ac ymwelwyr a allai fod wedi'u hawdurdodi i gael mynediad at ddata personol a gedwir gan y sefydliad.
Mae Dogfen Polisi Priodol y Brifysgol yn nodi sut y bydd y Brifysgol yn diogelu gwybodaeth categori arbennig ac euogfarnau troseddol.
Polisi Rheoli Gwybodaeth Mae'r polisi hwn yn amlinellu dull y Brifysgol o reoli gwybodaeth ar lefel uchel.
Mae'r Weithdrefn Digwyddiad Data i'w dilyn pan fu toriad sy'n ymwneud â data personol a dylid adrodd am doriadau drwy'r Ffurflen Hysbysu Digwyddiad Data.
Rhaid i unigolion sy'n ymwneud ag Ymchwil ffurfiol y Brifysgol (staff ymchwil ac ymchwil ôl-raddedig a doethurol) y mae'r Brifysgol yn rheolwr data ar eu cyfer brosesu data personol yn unol â'r Canllawiau ar gyfer Ymchwilwyr y Brifysgol. Ystyrir bod myfyrwyr sy'n ymgymryd â gwaith ymchwil fel rhan o'u hastudiaethau Israddedig neu Feistr yn rheolwyr data eu hunain a dylent ystyried y canllawiau canlynol.
I gael rhagor o wybodaeth am 'Rhannu Data' edrychwch ar ein tudalennau gwe.
Mae polisïau a chanllawiau pellach sy'n ymwneud â diogelu data ar gael ar safle 'Cyswllt' mewnol y Brifysgol