Amdanom Ni
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn arloesol, yn ffynnu ac yn gynaliadwy. Rydym yn gweithio i adeiladu dyfodol gwell i’n myfyrwyr, ein cymunedau a’n partneriaid yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
Effaith Ein Gwaith Gwasanaethau Prifysgol ArweinyddiaethRydym mewn lleoliad delfrydol i’n staff a’n myfyrwyr fwynhau popeth sydd gan y de-ddwyrain i’w gynnig, gyda champysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’n colegau partner, ac mae gennym ddau is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i ni, sef Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Choleg Merthyr Tudful.
Ein nod yw bod yn niwtral o ran carbon erbyn 2040. Gwyddom fod hyn yn bwysig er mwyn gweithredu a chynnal amgylchedd prifysgol cynaliadwy.
Rydym hefyd yn rhan allweddol o’r economi leol, ac yn cynhyrchu £1.1 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig bob blwyddyn (Adroddiad BiGGAR Economics, 2019/20). Am bob £1 a gaiff PDC mewn incwm, cynhyrchir £5.30 i’r economi ehangach. Mae mwy na 23,000 o fyfyrwyr a 2,700 o staff ym Mhrifysgol De Cymru (HESA 2021/22).
Gweithio gydag eraill
Mae gweithio mewn partneriaeth wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud. Rydym yn gweithio gyda busnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i gyflawni’r canlyniadau gorau i ddysgwyr a sefydliadau. Rydym yn ymchwilio ac yn arloesi i fynd i’r afael â rhai o’r heriau byd-eang mwyaf, o ynni ac iechyd i ddiogelwch a chynaliadwyedd. Mae’r arbenigedd hwn yn helpu ein partneriaid a’n myfyrwyr.
Dysgu drwy wneud
Ym Mhrifysgol De Cymru, mae ein myfyrwyr yn dysgu drwy wneud. Mae ein mannau dysgu yn adlewyrchu’r diwydiannau y byddant yn gweithio ynddynt ar ôl graddio. Mae ein cwricwlwm yn cael ei gyd-greu â chyflogwyr. Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu gweithlu medrus a pherthnasol ar gyfer diwydiannau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn cynhyrchu’r gweithlu mae cyflogwyr yn dweud wrthym y maent ei eisiau a’i angen.
Opsiynau astudio cynhwysol
Mae gennym amrywiaeth o opsiynau astudio, sy’n cynnig hyblygrwydd ac yn cefnogi dysgu gydol oes. Rydym yn falch mai llawer o’n myfyrwyr yw’r genhedlaeth gyntaf yn eu teulu i fynd i’r brifysgol. Mae bron i hanner myfyrwyr y Brifysgol yn dod o ardaloedd sydd yn nau gwintel isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Mae hyn yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.
Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol lle gall pawb ffynnu. Rydym yn gweithio gyda’n myfyrwyr i’w cefnogi i gwblhau eu hastudiaethau’n llwyddiannus a dechrau ar y gyrfaoedd maent wedi’u dewis. Rydym hefyd yn Brifysgol Noddfa. Mae hyn yn cydnabod ein hymrwymiad i greu diwylliant croesawgar ar gyfer pobl sy’n ceisio lloches ar ein campysau a thu hwnt.
EIN CYFLAWNIADAU DIWEDDAR
Strategaeth 2023 PDC
Ym Mhrifysgol De Cymru, mae ymgysylltu, cydweithio, a gweithio mewn partneriaeth wrth wraidd y cyfan a wnawn. Rydyn ni’n gweithio i adeiladu dyfodol gwell i'n myfyrwyr, ein partneriaid, a'n cymunedau – yn economaidd, yn gymdeithasol, ac yn ddiwylliannol.
Sut rydyn ni'n cael ein llywodraethu
Mae rheolaeth PDC yn cynnwys y Tîm Gweithredol, sy’n gyfrifol am reoli’r Brifysgol a datblygu cynlluniau strategol a gweithredol; Bwrdd y Llywodraethwyr, sy’n gyfrifol am oruchwylio gweithgareddau addysgol a’r ymrwymiad i gynnal materion mewn modd cyfrifol a thryloyw; a’n Canghellor, rôl anrhydeddus fel pennaeth seremonïol y Brifysgol.
Bwrdd y Llywodraethwyr yw corff llywodraethu PDC. Y Bwrdd sy’n bennaf cyfrifol am gymeriad a chenhadaeth addysgol y Brifysgol ac am gadw trosolwg o’i gweithgareddau, gan gynnwys ein cyfeiriad strategol cyffredinol ac am reoli ein cyllid, ein heiddo a phennu fframwaith ar gyfer tâl ac amodau staff.
Cyhoeddiadau a Pholisïau
Mae'r Brifysgol yn cynhyrchu ystod o bolisïau a chyhoeddiadau allweddol i gefnogi a llywio ein hymchwil, ein haddysgu a'n gweithgareddau proffesiynol, a darparu diweddariadau ar weithgareddau a pherfformiad y Brifysgol.
Mae ystod gynhwysfawr o adrannau gwasanaethau proffesiynol, o Gyllid ac Adnoddau Dynol i Yrfaoedd a Gwasanaethau Myfyrwyr, sy’n cefnogi gwaith y cyfadrannau a PDC. Mae ganddon ni hefyd grwpiau a chanolfannau ymchwil ac arloesi, lle mae ymchwilwyr yn gweithio gyda chyllid a phartneriaid allanol i gyflawni ymchwil gymhwysol a dylanwadol.