Ffioedd a Chyllid
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Efallai y byddwch yn gymwys i gael benthyciadau, grantiau neu fwrsariaethau i helpu tuag at eich ffioedd dysgu a'ch costau byw.
Ffioedd a chyllid israddedig Ffioedd a chyllid ôl-raddedig Ffioedd a chyllid rhyngwladolGall deall cyllid a ffioedd y Brifysgol deimlo'n frawychus i ddechrau, ond mae nifer o opsiynau ar gael i chi. Rydym yma i'ch helpu a'ch cynghori ar eich taith fel myfyriwr PDC.
-
Mae rheoli eich arian yn ddoeth tra byddwch yn fyfyriwr yn sgil hanfodol a all eich paratoi ar gyfer llwyddiant ariannol yn y dyfodol.
-
Gall Grantiau, Ymddiriedolaethau ac Elusennau fod yn ffynonellau cyllid gwych. Bydd gan bob un ohonynt feini prawf cymhwysedd a dulliau ymgeisio unigol eu hunain. Gall nifer ohonynt ddyfarnu cyllid rhannol ar gyfer eich astudiaethau.
-
Fel myfyriwr, gallwch elwa ar ostyngiadau amrywiol i fyfyrwyr sydd nid yn unig yn eich helpu i arbed arian ond sydd hefyd yn cynnig manteision cyffrous i wella eich profiad fel myfyriwr.
Astudio Gofal Iechyd neu Hyfforddiant Athrawon gyda ni? Mae cyllid a bwrsariaethau penodol ar gael i chi
Gweld cyllid a bwrsariaethau Gofal Iechyd
Ffioedd a chyllid gofal iechydGweld cyllid a bwrsariaethau Addysgu
Hyfforddiant AthrawonCymorth Costau Byw
Rydym yn deall bydd costau byw cynyddol yn effeithio ar fyfyrwyr mewn ffyrdd unigryw, felly rydym yma i helpu. O gymorth a chyngor ariannol i gymorth lles cyffredinol, rydym am wneud yn siŵr nad oes unrhyw effaith ar eich astudiaethau, profiad myfyrwyr, iechyd meddwl a lles cyffredinol.
Angen cyngor? Cysylltwch â ni
Gallwn helpu i ateb eich cwestiynau am gyllid myfyrwyr, ysgoloriaethau a mwy.
Cysylltu â ni