Cymorth ychwanegol
Cymorth i Unigolion sy’n Gadael Gofal
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr sy'n gadael gofal i fynd ymlaen i addysg uwch.
Cymorth ychwanegol Ffioedd a ChyllidRydym yn aelod o bartneriaeth CLASS Cymru (Gweithgareddau i Bobl sy'n Gadael Gofal a Chymorth i Fyfyrwyr), sy'n rhannu arferion gorau sy'n ymwneud ag unigolion sy'n gadael gofal ar draws sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Yn ogystal â'n hysgoloriaethau a'n bwrsariaethau rydym yn cynnig cymorth penodol i'r rhai sy'n gadael gofal. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig (yn amodol ar newid):
- Bwrsariaeth gadael gofal ar gyfer myfyrwyr sy’n cael eu hystyried yn fyfyrwyr ‘cartref’ – £1,000 ar hyn o bryd i fyfyrwyr amser llawn, neu £500 i fyfyrwyr rhan-amser
- Cyswllt a enwir
- Mynediad at lety 365 diwrnod i fyfyrwyr amser llawn – ar yr amod eich bod yn bodloni’r telerau ac amodau talu
- Gwobr graddio i gefnogi costau cysylltiedig fel llogi gŵn a phecyn ffotograffau (£100* ar hyn o bryd)
I fod yn gymwys ar gyfer y cymorth hwn, rhaid i fyfyrwyr fod o dan 25 oed a rhaid iddyn nhw ddangos y meini prawf canlynol;
Rhaid fodloni un o'r canlynol:
- Bod yng ngofal Awdurdod Lleol neu
- Wedi bod yng ngofal Awdurdod Lleol o fewn y 3 blynedd cyn cychwyn eich cwrs
- Wedi gadael y system gofal ond yn dal i dderbyn cefnogaeth gan eu hawdurdod lleol neu sefydliad fel Barnardos ac ati.
Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr
Mae'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yn cefnogi myfyrwyr gyda gyllid myfyrwyr e.e. benthyciadau a grantiau, arian ychwanegol ar gael fel bwrsariaethau a grantiau, ac yngor ariannol gan gynnwys cyllidebu a rheoli arian