Rydyn ni’n ymchwilio ac yn arloesi’n barhaus i newid bywydau a’n byd er gwell.
Rydyn ni’n darparu atebion i gymdeithas a'r economi, gan gefnogi ein cymunedau lleol a rhyngwladol. Mae ein harbenigwyr yn gweithio gyda sefydliadau o bob maint, ac o bob sector, i ddatblygu syniadau, cynhyrchion a gwasanaethau newydd sy'n datrys problemau penodol. Rydyn ni’n helpu llunwyr polisi i gasglu tystiolaeth i ddeall anghenion a phrofiadau’r sector neu ddiwydiant er mwyn llywio atebion yn well.
Meysydd Ymchwil Ymgysylltu â NiMae ymgysylltu, partneriaethau a chydweithio yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
Mae ein hymchwil yn rhoi atebion i rai o’r heriau mwyaf sylweddol sy’n wynebu cymdeithas a’r economi heddiw, o hybu arloesi a thwf economaidd i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd; o hyrwyddo cydraddoldeb i wella gallu pawb i gael gwasanaethau gofal iechyd. Mae modd gweld rhagor o enghreifftiau o effaith ein gwaith ymchwil yn yr Astudiaeth Achos o’r Effaith a’n Ffilmiau Effaith.
NEWID BYWYDAU A'N BYD AM WELL YFORY
Prosiect oedd hwn a gafodd ei gomisiynu gan Gwelliant Cymru, ac roedd yn canolbwyntio ar ddatblygu adnodd i helpu pobl sydd ag anableddau dysgu i gyfathrebu mewn lleoliadau gofal iechyd.
Yn dilyn ymchwil gan PDC a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, bu modd rhoi gwell addysg Saesneg i fudwyr dan orfod yn y de, gan roi sail i bolisi’r llywodraeth ym maes Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill.
Mae Treulio Anaerobig yn ffordd rymus o gwtogi gwastraff a lleihau ein hôl-troed carbon yn ddramatig. Yn dilyn gwaith ymchwil gan PDC a phartneriaid, datblygwyd seilwaith ar gyfer treulio anaerobig yn y Deyrnas Unedig, yn Ewrop, ac yn rhyngwladol.
Mae ein gwaith ymchwil wedi gweddnewid ymarfer wrth ymchwilio i laddiadau. Mae wedi gwneud hyn drwy wella cydweithio rhwng asiantaethau cyfiawnder troseddol, drwy rhoi sail i strategaethau’r Swyddfa Gartref ar gyfer lleihau nifer y lladdiadau, a drwy ddylanwadu ar bolisïau ac ymarfer wrth ymchwilio yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Wrth i dirlun darparu gwasanaethau newid yng Nghymru, mae gwaith ymchwil PDC i batrymau daearyddol wedi cael ei ddefnyddio gan wasanaeth Ymchwil y Senedd i friffio am drafnidiaeth ac anghydraddoldeb, ac yn benodol felly, ymchwil am effeithiau llai o wasanaethau bysus yn sgil y pandemig.
Authentic World Ltd, cwmni sydd wedi deillio o waith PDC, yw’r cwmni sydd ar flaen y gad yn y byd ym maes dylunio a datblygu amgylcheddau dysgu ac asesu ar gyfer cyfrifo dosau cyffuriau dilys yn rhithwir. A hwnnw’n cael ei ddefnyddio gan dros 80% o’r nyrsys israddedig yn y Deyrnas Unedig, mae safeMedicate hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn 12 o wledydd, gan gynnwys UDA, Canada ac Awstralia.
Mae ymchwilwyr wedi defnyddio’u harbenigedd mewn peirianneg fecanyddol i helpu’r cwmni annibynnol, Tarian Drums, i greu ateb arloesol ar gyfer yr offerynnau unigryw y mae’n eu cynhyrchu.