Adrodd Storïau er Lles: Gwella Ymarfer a Siapio Polisi
Mae'r Athro Emily Underwood-Lee a'r Athro Roiyah Saltus, Cyd-gyfarwyddwyr Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans, yn archwilio sut y gall adrodd storïau fod yn offeryn amhrisiadwy ar gyfer deall beth sy'n bwysig.
Mae prosiectau fel Deugain Llais, Storïau Bawso, ac Mae Gwrando’n Gam Mawr, dan arweiniad yr Athro Cyswllt Sarah Wallace, wedi cael effaith sylweddol ar wybodaeth a dealltwriaeth i lunwyr polisi a darparwyr gwasanaeth, gan lywio arferion a pholisi mewn iechyd a gofal cymdeithasol, Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), a throseddu a chyfiawnder.
Mae eu hymchwil hefyd wedi arwain at addysg a hyfforddiant gwell yn y meysydd hyn, gan gynnwys darparu hyfforddiant i gannoedd o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen ar y defnydd o stori.
Hefyd, mae straeon Deugain Llais wedi cael eu cynnwys yn hyfforddiant Cymorth i Ferched Cymru, ac mae’r gwaith Storïau Bawso yn helpu i wella lles goroeswyr a newid arferion curadurol yn Amgueddfa Cymru.
Mae prosiectau parhaus yn canolbwyntio ar sut mae ansawdd tai, mynediad at fannau gwyrdd, sefydlogrwydd cyflogaeth, a lefelau llygredd lleol yn siapio lles cymunedol; yn ogystal â sefydlu arferion ymgysylltu â dinasyddion sy'n seiliedig ar adrodd storïau mewn polisi iechyd a gofal cymdeithasol lleol a phrosesau gwneud penderfyniadau.
Mae Co-Creating Spaces of Change yn rhaglen ymchwil weithredu gydweithredol, sy'n archwilio sut y gellir galluogi mynediad at ddarpariaeth prifysgol i ddefnyddwyr gwasanaeth. Roedd canlyniadau'r peilot hwn yn cynnwys cynnydd o 30% mewn lefelau lles a hyder wrth ymgysylltu â gwasanaethau, a adroddwyd gan y cyfranogwyr eu hunain.