GRADDAU ISRADDEDIG
Mae cwrs israddedig ym Mhrifysgol De Cymru yn fwy na gradd yn unig.
Gweld pob cwrs Cofrestru am ddiwrnod agoredY tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth, rydym yn eich helpu i gyflawni eich potensial yn broffesiynol ac yn bersonol.
Bywyd myfyrwyr: gwneud atgofion gydol oes
-
Mae Prifysgol De Cymru yn gartref i fyfyrwyr amrywiol a chroesawgar. Yn y brifysgol byddwch yn gwneud ffrindiau am oes, yn rhoi cynnig a dysgu llawer o bethau newydd a dod yn fwy annibynnol nag erioed o'r blaen.
-
Mae ein blogwyr yn cynnig llawer o gyngor ar wneud cais i brifysgol a sut i wneud y gorau o'ch bywyd fel myfyriwr, wrth roi cipolwg i chi ar fywyd campws, digwyddiadau a'n clybiau a chymdeithasau.
-
O dros 100 o gymdeithasau a chlybiau i ddewis o’u plith, cefnogaeth ddiddiwedd, gweithgareddau, a digwyddiadau i wirfoddoli a datblygu sgiliau, mae Undeb Myfyrwyr PDC yn ymdrechu i wneud yn siŵr bod gennych chi’r cyfle i gyfoethogi pob agwedd ar eich bywyd fel myfyriwr o’r diwrnod cyntaf.
-
Mae gan Brifysgol De Cymru amgylchedd chwaraeon cystadleuol ffyniannus, gydag amrywiaeth o dimau Prifysgol yn cystadlu yng Nghynghrair BUCS (Prifysgolion a Cholegau Prydain). Rydym yn ymfalchïo yn ein llwyddiannau chwaraeon ac mae'n rhan fawr o fywyd myfyrwyr PDC.
Gyrfaoedd
DEWCH YN
ADDEDIG CYFLOGADWY
-
Rydym yn creu graddedigion sy'n barod ar gyfer yfory
-
Rydym yn cynnig addysgu sy'n adlewyrchu gofynion cyflogwyr ac yn rhoi’r sgiliau a’r profiad i'n myfyrwyr i lwyddo
Gyrfaoedd
Mae cyflogadwyedd wedi’i ymgorffori yn y cwricwlwm ar bob un o’n cyrsiau, ac mae gennym dîm ymroddedig i’ch cefnogi i ddod o hyd i brofiad gwaith cysylltiedig â gyrfa yn y DU a thramor.
Archwilio eich opsiynau gyrfa a chwilio am swyddi.Rydym yn creu graddedigion sy'n barod ar gyfer yfory
Rydym yn cynnig addysgu sy'n adlewyrchu gofynion cyflogwyr ac yn rhoi’r sgiliau a’r profiad i'n myfyrwyr i lwyddo
Ffioedd a chyllid
Mae prifysgol yn fuddsoddiad mawr a gall chwilio am gyngor ariannol fod yn llethol ac yn ddryslyd. Peidiwch â phoeni. Gall ein tîm o arbenigwyr eich helpu gydag unrhyw beth sy'n ymwneud ag arian, o wneud cais am gymorth ariannol neu ddysgu sut i gyllidebu. Felly, am gyngor ar ffioedd ac arian cysylltwch â'r arbenigwyr.