Mae'r cwrs MA AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) wedi'i fwriadu ar gyfer pobl sy'n gweithio gyda phlant neu bobl ifanc y mae anawsterau dysgu neu ymddygiad yn effeithio ar eu datblygiad.
Bydd y Dystysgrif i Raddedigion mewn AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) o ddiddordeb i bobl sydd am wella a meithrin eu gwybodaeth ym maes anghenion addysg arbennig/anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'r Diploma i Raddedigion mewn AAA/ADY yn cynnig ffocws manwl ar safbwyntiau cyfoes ar ddyslecsia ac ymarfer cynhwysol, yn ogystal â chyfle i ehangu dealltwriaeth ddamcaniaethol myfyrwyr drwy waith ymchwil a gwerthuso o fewn eu priod rolau proffesiynol.
Mae'r cwrs MA AAA/ADY (Awtistiaeth) ym Mhrifysgol De Cymru yn unigryw yng Nghymru. Dyma'r unig astudiaeth seiliedig ar ymarfer o awtistiaeth yn y rhanbarth, ac mae'n dod ag amrywiaeth eang o fyfyrwyr ynghyd o dde Cymru a gorllewin Lloegr, yn ogystal â myfyrwyr rhyngwladol.
Cwrs AAA/ADY Prifysgol De Cymru sy'n cynnig yr unig astudiaeth seiliedig ar ymarfer o awtistiaeth yn y rhanbarth, ac mae'n dod ag amrywiaeth eang o fyfyrwyr ynghyd o dde Cymru a gorllewin Lloegr, yn ogystal â llawer o fyfyrwyr rhyngwladol.
Mae'r cwrs BA Addysg yn cynnig cyfle i fyfyrwyr astudio'r ffordd y mae plant yn dysgu mewn amrywiaeth o gyd-destunau, ac mae'n cynnwys lleoliad bob blwyddyn mewn lleoliadau fel ysgolion, amgueddfeydd, a chyfleusterau chwaraeon, dysgu yn yr awyr agored a'r blynyddoedd cynnar.
Mae'r cwrs MA Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) wedi hen ennill ei blwyf gan ei fod yn cael ei gynnig ers 1995, a chaiff ei ddiweddaru'n rheolaidd er mwyn adlewyrchu anghenion newidiol y cyfranogwyr.