Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth
Er mwyn addysgu, nid yn unig y mae angen meistroli set gymhleth o sgiliau i arwain, cymell a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond mae hefyd angen y gallu i gynnal ymholiadau i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio â Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/education/education-ma-education-wales-placeholder-01.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
Mae’r llwybr arbenigol hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno canolbwyntio ar astudio arweinyddiaeth ar bob lefel o fewn y system addysg.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae'r cwrs MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) yn rhaglen wirioneddol drawsffurfiol sy'n arwain y sector ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau eu gyrfaoedd i uwch-arweinwyr.
Sgiliau a addysgir
- Arweinyddiaeth
- Cydweithio
Trosolwg o'r Modiwl
Mae'n debygol y bydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs TAR gan ennill 60 credyd ar Lefel 7 wedi'i heithrio o'r flwyddyn astudio gyntaf. Bydd y myfyrwyr hynny nad ydynt wedi ennill y cymhwyster hwn yn astudio tri modiwl yn y flwyddyn gyntaf:
- Addysgeg ac Ymarfer
- Cydweithio ac Ymarfer Proffesiynol
- Ymarfer ar sail Tystiolaeth
Ym Mlwyddyn 2, bydd y myfyrwyr yn astudio un modiwl craidd, ochr yn ochr ag unrhyw ddau fodiwl dewisol (20 credyd i bob un)
- Uwch-sgiliau Ymholiad Ymchwil (craidd)
Modiwlau dewisol:
- Arwain a Rheoli ADY
- Ymarfer Cynhwysol yn yr Ystafell Ddosbarth
- Arwain a Rheoli Gweithwyr Addysg Proffesiynol
- Arwain Newid Sefydliadol
- Cynllunio a Gwireddu'r Cwricwlwm
- Arweinyddiaeth ac Arloesi yn y Cwricwlwm
- Archwilio Addysgegau
- Llesiant Emosiynol a Meddyliol
- Tegwch ac Amrywiaeth
- Ymateb i Dlodi ac Anfantais mewn Addysg
- ADY: Ymarfer Rhagorol
- Arwain o Fewn Systemau a Rhyngddynt
Yn y drydedd flwyddyn, sef y flwyddyn olaf, bydd y myfyrwyr yn canolbwyntio ar y traethawd hir.
- Traethawd Hir
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch yn dysgu
Bydd 200 awr o astudio i bob modiwl 20 credyd, gan gynnwys 22 awr o amser cyswllt.
Bydd y dysgu'n gyfuniad o wersi ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd y gweithgareddau'n gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithgareddau grŵp a gweithgareddau unigol.
Aseiniadau gwaith cwrs fydd yr holl asesiadau, a chânt eu cyflwyno ar ddiwedd pob modiwl.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/71-study-spaces/student-life-study-spaces-newport-50393.jpg)
Staff addysgu
- Yasmeen Multani, Cyfarwyddwr y Rhaglen
- Dr Matt Hutt
- Dr Carmel Conn
- Rebecca Haycock
- Dr Bethan Mitchell
- Dr Denise Rogers
- Dr Catherine Jones
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/45-university-staff/profile-academic-staff-matt-hutt-postgraduate-education-35846.jpg)
GOFYNION MYNEDIAD
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar Statws Athro Cymwysedig (ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol) a bod yn gyflogedig ar hyn o bryd yn y sector addysg orfodol yn y DU. Mae’r cwrs hefyd yn agored i’r rheini sy’n gweithio fel darlithwyr mewn colegau AB, staff ysgolion partner AGA, Cynorthwywyr Addysgu sy’n bodloni gofynion mynediad academaidd y rhaglen, Partneriaid Gwella Ysgolion, staff Consortia Rhanbarthol, Estyn a staff yr Awdurdod Lleol.
Llwythwch y canlynol i fyny i'ch cais ar-lein:
- Tystiolaeth o'ch Rhif DfES - llythyr swyddogol gan y cyngor addysgu
- Cyfeiriad at bapur pennawd llythyr sefydliad / cwmni
Ffurflen Gais Atodol (lawlwythwch y ddogfen isod)
- Lawrlwythwch y Ddogfen.
Ffurflen Cydnabod Dysgu Blaenorol (lawrlwythwch y ddogfen isod)
- Lawrlwythwch y Ddogfen
Yn anffodus nid yw MA Addysg (Cymru) yn addas ar gyfer myfyrwyr tramor (heblaw'r UE). Fodd bynnag, mae MA Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) ac MA Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Addysg) yn agored i fyfyrwyr tramor (heblaw'r UE).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Medi 2024.
Ar gau i ymgeiswyr rhyngwladol
Yn anffodus, nid yw'r cwrs hwn yn agored i ymgeiswyr rhyngwladol ar hyn o bryd, ewch i'n tudalennau cwrs lle gallwch ddod o hyd i ddewis arall o gyrsiau.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
COSTAU YCHWANEGOL
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.